Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 16 Hydref 2019.
Diolch. Rydym yn gwneud cynnydd da wrth roi'r argymhellion ar waith. Er enghraifft, rwyf wedi canolbwyntio ar dyfu allforion yn y strategaeth ryngwladol, ac mae strategaeth twf allforio yn rhan o'r gwaith hwnnw. Fe fyddwch wedi sylwi, rwy'n siŵr, mai'r argymhelliad cyntaf, creu swydd benodol ar gyfer cysylltiadau rhyngwladol a masnach a swydd ar Brexit, oedd un o gamau cyntaf y Prif Weinidog ar ôl cychwyn ei swydd.