Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 16 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 2:36, 16 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch, Weinidog. Yn amlwg, bydd y swyddi sy'n gysylltiedig â hyn yn bwysig, ond unwaith eto, o ran yr elfennau o'r gwaith ar werthu arfau, credaf y byddai'n dda i Lywodraeth Cymru—wel, nid yn unig y byddai'n dda, byddai'n hynod bwysig i Lywodraeth Cymru—wneud popeth yn ei gallu i sicrhau nad yw honno'n ffordd rydym yn ariannu hynny yn anuniongyrchol.

Ond yn olaf, Weinidog, hoffwn droi at fater sy'n agosach at adref, sef ymgyrchwyr annibyniaeth Catalwnia sydd wedi'u carcharu gan wladwriaeth Sbaen. Mae'n afresymol fod carchariadau gwleidyddol yn digwydd yn Ewrop yn 2019. Mae gwledydd y gorllewin, yn briodol iawn, wedi beirniadu Tsieina am lethu protestwyr yn Hong Kong, ac eto mae gennym aelod-wladwriaeth o'r Undeb Ewropeaidd yn anfon gwleidyddion i'r carchar am gyflawni mandad dilys, democrataidd. Weinidog, a wnewch chi ymuno â Phlaid Cymru, a rhai o'ch Aelodau Llafur eich hun ar y meinciau cefn yn wir, i gondemnio Sbaen am eu gweithredoedd? Ac a wnewch chi anfon neges o undod at y naw gwleidydd ac ymgyrchydd Catalanaidd sydd bellach yn y carchar am weithredu mewn modd a ddylai fod wedi'i warchod o dan yr hawl i benderfynu drostynt eu hunain yn siarter y Cenhedloedd Unedig?