Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 16 Hydref 2019.
Wel, diolch am yr ymateb, ond dyw e ddim cweit wedi ateb y cwestiwn o ran pam y mae wedi cymryd cymaint o amser. Rydym hefyd yn disgwyl cyhoeddi polisi trosglwyddo iaith o fewn y teulu a datganiad llafar ar seilwaith ieithyddol. Rwy'n gobeithio ein bod ni'n mynd i gael rhywbeth oddi wrthych chi ynglŷn â'r rhain hefyd, achos maen nhw ar amserlen y bwrdd rhaglen.
Jest i symud ymlaen, mae cyngor partneriaeth y Gymraeg yn cynghori ac yn cyflwyno sylwadau i Weinidogion Cymru—dim ond i chi—mewn perthynas â'u strategaeth iaith Gymraeg. Ers dymchweliad eich cynlluniau ar gyfer Bil newydd a chyflwyno'r ddogfen cychwyn rhaglen, gallaf ddarganfod un set yn unig o gofnodion anghyflawn, o gyfarfod y cyngor ym mis Ebrill, lle ar ôl y camau archwilio risg arferol cafwyd cyflwyniad ar ail gartrefi a'r polisi yng Nghernyw. Sut mae'r cyngor partneriaeth wedi eich helpu i hyrwyddo cynnydd strategaeth 2050 ers rhoi'r gorau i'r Bil?