Y Gronfa Iach ac Egnïol

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 16 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent 3:02, 16 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Mae'r gostyngiad yn y cyllid yn ostyngiad penodol ar gynllun a oedd yn amlwg yn methu cyrraedd y poblogaethau y'i bwriadwyd ar eu cyfer. Ond yn sicr, ein bwriad yw sicrhau bod pobl iau yn elwa o'r fenter hon. Yr allwedd, i ni, yw gweithio gyda'r canolfannau hamdden eu hunain a chyda'r awdurdodau lleol, a dyna yw bwriad Chwaraeon Cymru.

Mae ein Cronfa Iach ac Egnïol yn parhau i fod yn allweddol i hyn, i ysgogi dulliau mwy arloesol o ymdrin â phob math o weithgarwch corfforol. Ac yn rhan o'r dull hwnnw, rydym hefyd yn annog yr holl awdurdodau dan sylw i fonitro'r ymateb, a bydd Chwaraeon Cymru yn darparu gwerthusiad i ni o effaith y newidiadau a wnaethom yn ôl eu hargymhelliad.