Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 3:04 pm ar 16 Hydref 2019.
Diolch. I'w gwneud yn glir, rwyf wedi ysgrifennu at Dominic Raab eisoes i nodi ein bod yn poeni ynglŷn â'r pryderon a fynegwyd gan rai o'r cymunedau Cwrdaidd yng Nghymru am y sefyllfa yn yr ardaloedd hynny. Er ein bod yn cydnabod mai'r DU sy'n arwain ar faterion tramor, rydym yn cynnal adolygiad o'n strategaeth allforio yn ei chyfanrwydd ar hyn o bryd ac wrth gwrs, bydd yna faterion y bydd angen inni edrych arnynt mewn perthynas â hynny. Ond rwy'n credu bod y cyhoeddiad a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol heddiw wedi ei gwneud yn glir na fydd unrhyw gyhoeddiadau pellach yn cael eu gwneud yn y dyfodol ynghylch gwerthu arfau i'r ardaloedd hynny lle yr ymosodir ar Syria.