Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 16 Hydref 2019.
Wel, diolch yn fawr iawn am y gwahoddiad; rwy'n sicr o dderbyn eich cynnig. Credaf fod llawer iawn o weithgarwch yn mynd rhagddo eisoes ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Fe wyddoch fod y Cabinet, yn gynharach yr wythnos hon, wedi cyfarfod ym Mhen-y-bont ar Ogwr, yn rhannol i ddangos cefnogaeth i weithwyr Ford. Ond un o'r sectorau allweddol rydym yn gobeithio eu hyrwyddo yn y strategaeth ryngwladol yw teledu a ffilmiau o safon, ac fe fyddwch yn ymwybodol y bydd y stiwdio yn Llanharan yn bwynt gwerthu pwysig i ni. Gwn fod llawer o weithgarwch wedi bod yn digwydd yno gyda'r gwaith o ffilmio Brave New World. Hefyd, ar ymweliad diweddar â'r Almaen, cyfarfûm â chwmni o'r Almaen sydd eisoes wedi buddsoddi ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac sy'n awyddus i ymestyn y buddsoddiad hwnnw. Felly, credaf fod cyfleoedd gwirioneddol i Ben-y-bont ar Ogwr, a buaswn yn falch iawn o dderbyn gwahoddiad yr Aelod.