Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 3:09 pm ar 16 Hydref 2019.
Rwy'n credu bod hynny'n hollol gywir. Credaf fod yr agenda gyfan yn newid yma. Rwy'n credu bod cydnabyddiaeth mai'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad sy'n arwain yn y maes, ond fe fyddwch wedi clywed y Prif Weinidog yn siarad ddoe am y setliad cyfansoddiadol newydd rydym yn ei geisio mewn perthynas â'r Deyrnas Unedig, ac mae'n amlwg y byddwn angen mwy o lais a mwy o fewnbwn, yn enwedig mewn perthynas â thrafodaethau masnach a meysydd lle mae gennym gyfrifoldeb datganoledig. Ac wrth gwrs, lle mae gennym gynrychiolaeth sylweddol o gymunedau eraill o amgylch y byd yn byw yma yng Nghymru, mae'n hollol iawn y dylent gael eu clywed yn y Siambr hon hefyd os yn bosibl.