Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 3:10 pm ar 16 Hydref 2019.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Wrth gwrs, bydd y Comisiwn yn ymwybodol, yn ogystal â'r cynlluniau pensiwn ar gyfer Aelodau'r Cynulliad a gweision sifil, fod yna drydydd cynllun sy'n darparu ar gyfer staff cymorth Aelodau'r Cynulliad, fel rydych newydd ei grybwyll. Nawr, deallaf nad yw'r cynllun hwn wedi cael ei adolygu ers ei gyflwyno, ac ar yr olwg gyntaf, mae'n cymharu'n anffafriol iawn â'r cynlluniau eraill. A gaf fi ofyn i'r Comisiynydd am arweiniad ar sut y gellid dechrau'r broses o adolygu'r cynllun pensiwn staff fel y gallwn fod yn sicr ei fod yn deg ac yn adlewyrchu'r cyfraniad y mae ein holl staff cymorth yn ei wneud?