Hyrwyddo Ymwybyddiaeth a Dealltwriaeth o Waith Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 3:12 pm ar 16 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:12, 16 Hydref 2019

Mae ymgysylltu ac hyrwyddo'r Cynulliad yn un o flaenoriaethau strategol y Comisiwn ac mae codi ymwybyddiaeth a gwella dealltwriaeth o waith y Cynulliad yn rhan o hynny. Mae dwy ffordd gennym ni o neilltuo arian ar gyfer y blaenoriaethau hyn—drwy'r gyllideb arferol a thrwy gronfa prosiectau. Mae'r cyllid rheolaidd yn cynnwys cefnogi Senedd Ieuenctid Cymru, siop y Senedd, ymweliadau ysgolion, marchnata a chyhoeddusrwydd, ac mae hynny'n gyfanswm o £311,000. Mae tri phrosiect perthnasol yn y gronfa brosiectau ar gyfer 2019-20, gyda gwerth cyfanswm o £520,000.