Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 3:20 pm ar 16 Hydref 2019.
Os ydym am arwain y ffordd yn mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, mae'n rhaid inni osod esiampl i fusnesau a chyrff cyhoeddus eraill ei dilyn. Nawr, er bod adeilad y Senedd wedi cael ei enwi'n Llywodraeth fwyaf gwyrdd y DU, nid yw adeilad Tŷ Hywel yn gwneud cystal. Sgôr ynni E sydd ganddo. Er bod gwelliannau wedi bod i effeithlonrwydd ynni ar yr ystâd yn ystod y blynyddoedd diwethaf, beth arall y gellir ei wneud, er enghraifft, mewn perthynas â gwresogi, goleuo, bwyd, ac ati, i wella'r sgôr i sicrhau bod ein hamgylchedd gwaith yn esiampl dda i bobl eraill ei dilyn mewn argyfwng hinsawdd?