Part of the debate – Senedd Cymru am 4:55 pm ar 16 Hydref 2019.
Derbyniwyd argymhelliad 8 mewn egwyddor. Buom yn trafod gyda'r Gweinidog yr angen i gynnwys y rheini sydd wedi cael profiad byw o'r broses asesu. Roedd yn hyderus, pan fydd cyd-awdurdodau trafnidiaeth yn cael eu sefydlu, y byddai hon yn nodwedd bwysig i roi cyngor ar sut y gellid gwella'r modd y darparir gwasanaethau. Rydym yn sylweddoli bod darpariaethau sy'n ymwneud â sefydlu cyd-awdurdodau trafnidiaeth yn ymwneud yn bennaf â gwasanaethau bysiau a thacsis, ond cawsom ein sicrhau gan y Gweinidog y gallai fod rôl hefyd o ran rhoi cyngor ar y broses o wneud cais am fathodyn glas. Felly, rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn nodi sut y mae'n rhagweld rôl i'r rhai sydd â phrofiad byw o'r system bathodynnau glas wrth sefydlu cyd-awdurdodau trafnidiaeth.
Yn yr ymateb, mae Llywodraeth Cymru yn datgan y bydd yn disgwyl i'r cyrff rhanbarthol newydd fod â threfniadau ar waith ar gyfer gweithio gyda defnyddwyr gwasanaethau, gan gynnwys deiliaid bathodynnau. Byddai'r pwyllgor yn gwerthfawrogi cael mwy o sicrwydd ynglŷn â sut y bydd hyn yn gweithio. Hoffwn ofyn i'r Gweinidog am y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â sut y mae'n rhagweld y caiff hyn ei weithredu a'i fonitro.
Mae argymhelliad 11 yn ymwneud â diwygio Deddf Cleifion Cronig a Phersonau Anabl 1970, yn benodol mewn perthynas â chyhoeddi canllawiau statudol. Roedd anghysonderau o ran gweithredu'r cynllun bathodynnau yn un o'r prif bryderon a godwyd gan randdeiliaid ac yn wir, dywedodd y Gweinidog wrthym mai ei flaenoriaeth gyntaf oedd sicrhau cysondeb ledled Cymru. Eto i gyd, ymateb Llywodraeth Cymru yw gwrthod, er i'r Gweinidog gydnabod mewn tystiolaeth i ni y byddai'n fwy dymunol i gael canllawiau statudol ar waith. Cawsom ein synnu a'n siomi gan yr ymateb. Sylwaf fod llythyr y Gweinidog yn dweud y bydd swyddogion yn trafod y canllawiau gydag awdurdodau lleol ac unwaith eto, byddem yn gwerthfawrogi cael yr wybodaeth ddiweddaraf maes o law.
Mae gwrthod argymhelliad 13 yn fater arall sy'n peri pryder. Rydym yn gwybod bod y broses adnewyddu yn achosi pryder diangen i bobl, felly dywedasom y dylai'r rhai sy'n dioddef o gyflwr gydol oes neu gyflwr sy'n dirywio allu adnewyddu'n awtomatig, gan na fyddai eu hamgylchiadau wedi newid. Wrth wrthod hyn, cyfeiriodd y Gweinidog at wasanaeth digidol y bathodyn glas, sydd wedi bod ar waith ers mis Chwefror, fel modd o ddynodi a yw bathodyn wedi'i ddyfarnu am oes. A all y Gweinidog roi sicrwydd fod y system hon yn gweithio'n effeithiol?
Cyfeiriodd ein hadroddiad at dystiolaeth a glywsom gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili sy'n cysylltu'n rhagweithiol â'r rheini y mae dyddiad terfyn eu bathodynnau yn agosáu. Roeddem yn croesawu'r dull hwn o weithredu. Eto i gyd, clywsom yn anffurfiol gan randdeiliad fod awdurdodau lleol yn optio allan o alluogi'r system newydd i gyhoeddi llythyrau atgoffa, gan mai cyfrifoldeb ymgeiswyr oedd ailymgeisio. Byddai'n fater o bryder pe bai'r arfer hwn yn un a ailadroddir yn eang, a hoffwn ofyn a yw'r Gweinidog yn ymwybodol o'r materion hyn.
Mae gorfodaeth briodol yn hanfodol i sicrhau uniondeb y cynllun, felly rwy'n falch fod y rhan fwyaf o'r argymhellion ar hyn wedi'u derbyn, mewn egwyddor o leiaf. Argymhelliad 16 oedd bod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn gweithio gyda'i gilydd i ehangu'r ystod o gosbau a osodir ar y rhai sy'n euog o gamddefnyddio'r cynllun. Rwy'n falch fod yr ymateb yn cyfeirio at gyfle i gynnal trafodaeth gychwynnol. Fodd bynnag, buaswn yn ddiolchgar am ragor o fanylion gan y Gweinidog ynglŷn â sut y caiff hyn ei ddatblygu.
Ddirprwy Lywydd, i gloi, fel y dywedais eisoes, mae'r cynllun bathodyn glas yn hanfodol i alluogi llawer o bobl i fyw'n annibynnol, ac mae'r posibilrwydd o fethu cael bathodyn yn achosi llawer o bryder. Mae'r rhain yn faterion pwysig, ac rwy'n gobeithio y gall Llywodraeth Cymru ailystyried rhai o'n hargymhellion a wrthodwyd er mwyn sicrhau bod y cynllun yn gweithredu mor effeithiol â phosibl ar gyfer ein holl gymunedau ledled Cymru.