7. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: y Cynllun Bathodyn Glas yng Nghymru: Cymhwystra a Gweithredu

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:35 pm ar 16 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of John Griffiths John Griffiths Labour 5:35, 16 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau. Pwysleisiodd Mark Drakeford—Mark Isherwood, mae'n ddrwg gennyf—[Chwerthin.] Mae'n anodd iawn drysu rhwng y ddau, Ddirprwy Lywydd—rhaid ei fod yn arwydd o flinder, rwy'n meddwl. Pwysleisiodd Mark Isherwood y model cymdeithasol o anabledd wrth ystyried y materion hyn, ac mae hynny'n sicr yn rhywbeth a ddaeth i'r amlwg yn glir yn y dystiolaeth a gawsom yn ein gwaith fel pwyllgor. Nid oes amheuaeth fod yn rhaid i'r cysyniad o'r model cymdeithasol o anabledd—y dull hwnnw o weithredu—fod yn sail i bopeth sy'n digwydd mewn perthynas â'r materion pwysig hyn. Gwyddom fod y ffordd y mae cymdeithas yn ei threfnu ei hun, neu'n methu trefnu ei hun, yn gwbl allweddol i ansawdd bywyd a gallu pobl ag anableddau i fyw'r bywyd annibynnol y maent yn dyheu amdano. Rhaid i hynny fod wrth wraidd ein hystyriaeth o'r holl faterion hyn.

Ddirprwy Lywydd, gadewch i mi ystyried ymateb y Llywodraeth a wyntyllwyd gan y Gweinidog yn awr, ac a drafodwyd gan Aelodau eraill. Fel y dywedwyd, yn wreiddiol, gwrthododd Llywodraeth Cymru naw o'n 19 o argymhellion. Gwnaethom bwyntiau pellach i Lywodraeth Cymru drwy lythyr, fel pwyllgor, ac yna derbyniwyd tri argymhelliad arall mewn egwyddor. Yna, gwnaethom ysgrifennu eto gan wneud pwyntiau eraill, ac yna, mewn ymateb pellach gan Lywodraeth Cymru, derbyniodd y Gweinidog ei bod yn bosibl fod ffyrdd eraill o fynd i'r afael â rhai o'r materion hynny.

Felly, er bod y pwyllgor wedi'i siomi yn yr ymateb cychwynnol, ac yn dal i fod yn siomedig na chafodd mwy o'r argymhellion eu derbyn, credaf ei bod yn deg dweud i ni fod mewn cysylltiad â'r Gweinidog ac rydym wedi gweld symudiad ar ei ran, ac yn wir, rydym wedi cael sicrwydd pellach heddiw. Felly, ydy, mae'r pwyllgor yn siomedig, ond rydym wedi cael deialog ac rydym wedi gweld rhywfaint o gynnydd.

Ar bwynt Dawn Bowden ar y mater penodol hwnnw, mater y mae Dawn yn llygad ei lle yn dweud na chawsom dystiolaeth arno fel pwyllgor—felly, lle mae oedi cyn adnewyddu, mae'n cymryd peth amser i ymdrin â'r mater, ac yn y cyfamser gallai'r bathodyn barhau gan ganiatáu i ddeiliad y bathodyn barhau i fwynhau'r consesiynau a ddaw yn ei sgil. Clywaf yr hyn a ddywedodd y Gweinidog wrth ymateb ac fel pwyllgor, edrychwn ymlaen hefyd at gadw llygad ar hynny.

Credaf fod Jenny Rathbone wedi crybwyll rhai materion diddorol o ran y deiliaid bathodynnau eu hunain, efallai, nad ydynt bob amser yn deall pwysigrwydd eu hymddygiad mewn perthynas ag anabledd a phobl—defnyddwyr cadeiriau olwyn, er enghraifft—sy'n defnyddio palmentydd isel. Yn rhyfedd ddigon, cyfarfûm â grŵp o Drefyclo, a oedd, fel grŵp o bobl ag anableddau—grŵp defnyddwyr—yn gymorth mawr gyda gwaith y pwyllgor yn hwyluso grŵp ffocws ac maent yn parhau i ymgysylltu'n frwd. Yn wir, gwnaethant yr union bwynt a wnaeth Jenny Rathbone—sef mai deiliaid bathodynnau glas eu hunain mewn gwirionedd sydd, yn Nhrefyclo, yn rhy aml yn parcio mewn modd sy'n rhwystro mynediad at balmentydd isel, ac maent yn atgoffa pawb o'r materion hynny'n barhaus.

Felly, siaradwyd am ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth a chyfathrebu, ac unwaith eto, mae hynny'n rhywbeth y soniodd y Gweinidog amdano. Mae angen inni wneud y pwyntiau priodol yn barhaus a cheisio sicrhau, mor aml â phosibl, fod pobl yn deall y materion hyn ac yn ymddwyn yn briodol. Gallai fod rôl i ymgyrchoedd teledu a chodi ymwybyddiaeth yn ehangach os ydym am fod mor effeithiol ag y mae angen inni fod ar y pwyntiau hynny.

Ddirprwy Lywydd, rwy'n credu bod y Gweinidog wedi cydnabod pwysigrwydd y materion hyn a chael y cydbwysedd cywir fel ein bod yn ymestyn manteision y cynllun gymaint ag y bo modd, ond rydym yn ymwybodol, pe bai hynny'n mynd yn rhy bell, y byddai'n lleihau gwerth y cynllun i ddeiliaid bathodynnau presennol a'r rhai a fydd yn dod yn ddeiliaid bathodynnau o dan y meini prawf presennol. Rydym yn ymwybodol o'r cydbwysedd hwnnw, ac edrychwn ymlaen at gael y wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog fel y gallwn asesu ymhellach i weld a yw'r cydbwysedd hwnnw'n cael ei daro'n briodol.

Ddirprwy Lywydd, gwelaf fod fy amser wedi dod i ben. Gadewch imi ddweud i gloi fod y cynllun hwn yn wirioneddol bwysig oherwydd, fel y nododd y Gweinidog eto, yng Nghymru yn arbennig, mae cyfran uchel o'r boblogaeth yn ddeiliaid bathodyn glas. Felly, mae'n gwbl hanfodol ein bod yn cael y cynllun hwn yn iawn. Mae'n gwneud cyfraniad sylweddol at ansawdd bywyd deiliaid y bathodynnau hyn yma yng Nghymru.