Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 22 Hydref 2019.
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yn rhoi ystyriaeth ofalus i argymhellion y grŵp gorchwyl a gorffen ar hyn o bryd. Nid ydym ni'n disgwyl derbyn adroddiadau gan Gomisiwn y Gyfraith tan y gwanwyn bellach, ond bydd y Gweinidog yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf yn ystod tymor yr hydref eleni, fel y nodwyd yn flaenorol.