1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 22 Hydref 2019.
2. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y grŵp gorchwyl a gorffen ar ddiwygio cyfraith lesddaliad? OAQ54611
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yn rhoi ystyriaeth ofalus i argymhellion y grŵp gorchwyl a gorffen ar hyn o bryd. Nid ydym ni'n disgwyl derbyn adroddiadau gan Gomisiwn y Gyfraith tan y gwanwyn bellach, ond bydd y Gweinidog yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf yn ystod tymor yr hydref eleni, fel y nodwyd yn flaenorol.
Hoffwn bwysleisio pwysigrwydd yr adroddiad hwn i'm hetholwyr. Mae trigolion rhydd-ddaliad yng Nghwm Calon yn Ystrad Mynach yn talu dros £150 y flwyddyn am waith cynnal a chadw ar eu hystâd ar hyn o bryd, sy'n cael ei wneud gan gwmni rheoli ystadau. Nid oes cap ar hyn o bryd ar ba mor uchel y gallai'r ffioedd hynny godi, ac ni all preswylwyr werthu eu heiddo tan eu bod wedi talu'r ffioedd hynny, ac, os na fyddan nhw yn eu talu, maen nhw'n ddarostyngedig i ddyfarniadau llys sirol. Ac maen nhw'n ychwanegol at eu treth gyngor. Mae'r ffaith bod unrhyw waith cynnal a chadw yn cael ei wneud ar yr ystâd hon o gwbl yn dyst i waith grŵp cyswllt gwirfoddol Cwm Calon, sydd wedi ei leoli ar yr ystâd ac a sefydlwyd gan y trigolion i drafod â'r cwmni rheoli ystadau i'w cymell i wneud y gwaith. Nid oes unrhyw rym i'w gorfodi i wneud y gwaith, ond fe wnaethon nhw lwyddo i weithio gyda'r cwmni hwnnw i'w orfodi i wneud hynny. Ar hyn o bryd, rwy'n ceisio cael cyfarfod rhwng Redrow, cwmni rheoli'r ystâd, a'r Cyngor gyda'i gilydd, ac rwy'n cael hunllef ar hyn o bryd o ran cael Redrow i ymateb i mi. Mae angen taer arnom ni i drefnu'r cyfarfod hwn. Rydym ni angen rheoliadau i orfodi'r gwaith sy'n digwydd yn y fan yma, ac rydym ni angen rheoliadau i orfodi grym y trigolion o dan yr amgylchiadau hyn. Yn arbennig, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru gefnogi awdurdodau lleol i fabwysiadu mannau gwyrdd, fel nad oes yn rhaid iddyn nhw dalu'r ffioedd hyn, ac, o safbwynt safonau masnach, mae'r trigolion yn teimlo bod eu heiddo wedi cael ei gam-werthu iddyn nhw. Felly, a all y Prif Weinidog roi ystyriaeth i'r sylwadau hyn? Y trigolion yn siarad â mi allan o anobaith yw hyn. A all y Prif Weinidog roi ystyriaeth i'r sylwadau hyn, ac a allwn ni fwrw ymlaen i reoleiddio cyn gynted â phosibl?
Llywydd, hoffwn ddiolch i'r Aelod am y pwyntiau pwysig iawn yna. Mae'n tynnu sylw at y ffaith, er bod y grŵp gorchwyl a gorffen wedi ei sefydlu i ymdrin â diwygio cyfraith lesddaliad, bod ffrwd waith benodol yn rhan ohono yn ymdrin â materion rhydd-ddaliad hefyd. Ac mae hwn yn faes cymhleth iawn o gyfraith a pholisi, Llywydd, a dyna pam, yn ogystal â'r tasglu sydd wedi adrodd i'm cyd-Weinidog Julie James, y mae Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth hefyd wedi sefydlu tasglu i edrych ar faterion yn ymwneud â ffyrdd nad ydyn nhw wedi eu mabwysiadu. Oherwydd mae ffyrdd nad ydyn nhw wedi eu mabwysiadu yn is-gyfres bwysig iawn o ffioedd rheoli ystadau o'r math y cyfeiriwyd atyn nhw gan Hefin David.
Mewn darlun cymhleth iawn, â llawer o wahanol gamau gweithredu, hoffwn dynnu sylw at dri pheth y prynhawn yma, os caf i. Yn gyntaf oll, o ganlyniad i'r adroddiad hwnnw, rydym ni wedi sefydlu cynllun achredu trawsgludwyr Cymru, gan fod yr adroddiad yn dweud mai un o'r pethau pwysig iawn oedd sicrhau bod pobl yn cael cyngor priodol ar adeg prynu. Fel arall, mae pobl yn canfod eu hunain yn y sefyllfa a amlinellodd Hefin, lle maen nhw'n canfod bod ffioedd yn cael ei codi arnynt nad oedden nhw wedi eu rhagweld, yn ei chael hi'n anodd iawn cael esboniad ynghylch o ble y mae'r ffioedd hynny'n deillio neu i gael unrhyw syniad o sut y bydd y ffioedd hynny'n cael eu rheoleiddio yn y dyfodol. Os ydych chi'n prynu tŷ o dan y cynllun Cymorth i Brynu nawr yng Nghymru, mae'n rhaid i chi ddefnyddio trawsgludwr sydd wedi ei achredu. Mae'r achrediad yn far uchel, lle mae'n rhaid i bobl allu dangos eu bod nhw wedi cael eu hyfforddi a'u bod yn meddu ar yr adnoddau priodol i sicrhau bod cwsmeriaid yn cael gwybodaeth briodol ar adeg prynu.
Yr ail beth yr ydym ni'n edrych arno yw hawliau cryfach. Mae gan lesddeiliaid hawliau ac amddiffyniadau cyfreithiol. Er enghraifft, cânt herio rhesymoldeb ffioedd gwasanaeth o dan y darpariaethau yn Neddf Landlord a Thenant 1985. Nid oes gan rydd-ddeiliaid yr amddiffyniadau hynny, a dyna sut y maen nhw'n canfod eu hunain yn sefyllfa'r trigolion yn etholaeth Hefin David yn y pen draw. Disgwylir adroddiad Comisiwn y Gyfraith, y cyfeiriais ato yn fy ateb, yn 2020 erbyn hyn, ac nid ydym ni'n dal yn ôl o gwbl o'r posibilrwydd y byddwn ni eisiau deddfu, ond bydd angen i ni ddeddfu yng ngoleuni'r argymhellion ehangach y bydd yr adroddiad hwnnw'n eu gwneud.
Ac, yn olaf ac yn drydydd, i barhau â'r pwynt o ffyrdd heb eu mabwysiadu a'r ffioedd y mae pobl yn canfod eu hunain yn gorfod eu talu yn hynny o beth, o ganlyniad i'r tasglu y mae Ken Skates wedi ei sefydlu, mae pob plaid wedi cytuno ar safonau cenedlaethol cyffredin erbyn hyn. Lluniwyd canllaw arfer da ac fe'i dosbarthwyd i bob awdurdod lleol, ac mae cronfa ddata yn cael ei datblygu o ffyrdd hanesyddol nad ydyn nhw wedi eu mabwysiadu ledled Cymru, felly mae gennym ni well syniad o'r her sydd yno. Argymhellion y tasglu oedd pob un o'r rheini. Mae pob un o'r tri wedi ei weithredu ac rwy'n credu y bydd pob un ohonyn nhw yn berthnasol i etholwyr Hefin David.
Prif Weinidog, a ydych chi'n ymuno â mi i groesawu penderfyniad Persimmon Homes i setlo y tu allan i'r llys yn ystod yr haf a rhoi eu prydles i 55 o ddeiliaid tai ar ystâd yng Nghaerdydd—Saint Edeyrn—yn rhad ac am ddim? Roedden nhw ar yr ystâd honno er gwaethaf y ffaith fod y 1,100 o dai eraill wedi eu gwerthu fel rhydd-ddaliadau, ac mae wir yn bryd i ddatblygwyr roi'r gorau i ddefnyddio lesddaliad dim ond fel ffordd arall o gynhyrchu incwm. Dylid ond ei ddefnyddio pan fydd y math o ddeiliadaeth yn gofyn am brydles, a cheir adegau pan fydd hynny'n digwydd, ond rhydd-ddaliad yw'r hyn y dylid ei roi ar yr ystadau preswyl hyn fel rheol.
Wel, rwy'n cytuno'n llwyr â'r Aelod yn hynny o beth, a bydd yn falch, mi wn, o weld bod y ffigurau a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos, yng Nghymru, bod cyfran y gwerthiannau tai newydd a oedd yn lesddeiliadaeth wedi gostwng o 18 y cant yn 2017 i 2.6 y cant yn 2018,FootnoteLink ac rydym ni'n rhagweld gostyngiad pellach pan fydd y ffigurau ar gyfer 2019 yn cael eu cyhoeddi. Ac mae hynny oherwydd cytundeb gyda'r adeiladwyr tai cyfradd uchel na fydd unrhyw dai Cymorth i Brynu neu gronfa datblygu eiddo Cymru yn cael eu hadeiladu yn y dyfodol fel cartrefi ar brydles, ac mae hwnnw'n ddatblygiad pwysig iawn yr ydym ni wedi gallu ei wneud yng Nghymru.