Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 22 Hydref 2019.
Wel, rwy'n cytuno'n llwyr â'r Aelod yn hynny o beth, a bydd yn falch, mi wn, o weld bod y ffigurau a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos, yng Nghymru, bod cyfran y gwerthiannau tai newydd a oedd yn lesddeiliadaeth wedi gostwng o 18 y cant yn 2017 i 2.6 y cant yn 2018,FootnoteLink ac rydym ni'n rhagweld gostyngiad pellach pan fydd y ffigurau ar gyfer 2019 yn cael eu cyhoeddi. Ac mae hynny oherwydd cytundeb gyda'r adeiladwyr tai cyfradd uchel na fydd unrhyw dai Cymorth i Brynu neu gronfa datblygu eiddo Cymru yn cael eu hadeiladu yn y dyfodol fel cartrefi ar brydles, ac mae hwnnw'n ddatblygiad pwysig iawn yr ydym ni wedi gallu ei wneud yng Nghymru.