Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 22 Hydref 2019.
Llywydd, hoffwn ddiolch i'r Aelod am y pwyntiau pwysig iawn yna. Mae'n tynnu sylw at y ffaith, er bod y grŵp gorchwyl a gorffen wedi ei sefydlu i ymdrin â diwygio cyfraith lesddaliad, bod ffrwd waith benodol yn rhan ohono yn ymdrin â materion rhydd-ddaliad hefyd. Ac mae hwn yn faes cymhleth iawn o gyfraith a pholisi, Llywydd, a dyna pam, yn ogystal â'r tasglu sydd wedi adrodd i'm cyd-Weinidog Julie James, y mae Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth hefyd wedi sefydlu tasglu i edrych ar faterion yn ymwneud â ffyrdd nad ydyn nhw wedi eu mabwysiadu. Oherwydd mae ffyrdd nad ydyn nhw wedi eu mabwysiadu yn is-gyfres bwysig iawn o ffioedd rheoli ystadau o'r math y cyfeiriwyd atyn nhw gan Hefin David.
Mewn darlun cymhleth iawn, â llawer o wahanol gamau gweithredu, hoffwn dynnu sylw at dri pheth y prynhawn yma, os caf i. Yn gyntaf oll, o ganlyniad i'r adroddiad hwnnw, rydym ni wedi sefydlu cynllun achredu trawsgludwyr Cymru, gan fod yr adroddiad yn dweud mai un o'r pethau pwysig iawn oedd sicrhau bod pobl yn cael cyngor priodol ar adeg prynu. Fel arall, mae pobl yn canfod eu hunain yn y sefyllfa a amlinellodd Hefin, lle maen nhw'n canfod bod ffioedd yn cael ei codi arnynt nad oedden nhw wedi eu rhagweld, yn ei chael hi'n anodd iawn cael esboniad ynghylch o ble y mae'r ffioedd hynny'n deillio neu i gael unrhyw syniad o sut y bydd y ffioedd hynny'n cael eu rheoleiddio yn y dyfodol. Os ydych chi'n prynu tŷ o dan y cynllun Cymorth i Brynu nawr yng Nghymru, mae'n rhaid i chi ddefnyddio trawsgludwr sydd wedi ei achredu. Mae'r achrediad yn far uchel, lle mae'n rhaid i bobl allu dangos eu bod nhw wedi cael eu hyfforddi a'u bod yn meddu ar yr adnoddau priodol i sicrhau bod cwsmeriaid yn cael gwybodaeth briodol ar adeg prynu.
Yr ail beth yr ydym ni'n edrych arno yw hawliau cryfach. Mae gan lesddeiliaid hawliau ac amddiffyniadau cyfreithiol. Er enghraifft, cânt herio rhesymoldeb ffioedd gwasanaeth o dan y darpariaethau yn Neddf Landlord a Thenant 1985. Nid oes gan rydd-ddeiliaid yr amddiffyniadau hynny, a dyna sut y maen nhw'n canfod eu hunain yn sefyllfa'r trigolion yn etholaeth Hefin David yn y pen draw. Disgwylir adroddiad Comisiwn y Gyfraith, y cyfeiriais ato yn fy ateb, yn 2020 erbyn hyn, ac nid ydym ni'n dal yn ôl o gwbl o'r posibilrwydd y byddwn ni eisiau deddfu, ond bydd angen i ni ddeddfu yng ngoleuni'r argymhellion ehangach y bydd yr adroddiad hwnnw'n eu gwneud.
Ac, yn olaf ac yn drydydd, i barhau â'r pwynt o ffyrdd heb eu mabwysiadu a'r ffioedd y mae pobl yn canfod eu hunain yn gorfod eu talu yn hynny o beth, o ganlyniad i'r tasglu y mae Ken Skates wedi ei sefydlu, mae pob plaid wedi cytuno ar safonau cenedlaethol cyffredin erbyn hyn. Lluniwyd canllaw arfer da ac fe'i dosbarthwyd i bob awdurdod lleol, ac mae cronfa ddata yn cael ei datblygu o ffyrdd hanesyddol nad ydyn nhw wedi eu mabwysiadu ledled Cymru, felly mae gennym ni well syniad o'r her sydd yno. Argymhellion y tasglu oedd pob un o'r rheini. Mae pob un o'r tri wedi ei weithredu ac rwy'n credu y bydd pob un ohonyn nhw yn berthnasol i etholwyr Hefin David.