Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 22 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 1:52, 22 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Felly, os wyf i'n dilyn y Prif Weinidog, yr hyn yr wyf i'n meddwl y mae'n ei ddweud yw mai'r rheswm am ymestyn y defnydd o drenau Pacer—nid etifeddiaeth y fasnachfraint ddiwethaf yn unig yw hynny, mae'n ganlyniad i rai o'r penderfyniadau caffael a'r problemau a wnaed o dan yr un yma. Nawr, a allwch chi gadarnhau bod Arriva wedi archebu trenau Flex, fel y'u gelwir rwy'n credu, pedwar i bum cerbyd, a bod Trafnidiaeth Cymru wedi ymestyn yr archeb honno i naw trên? A allwch chi gadarnhau a yw'r trenau trydan hyn â pheiriant diesel sydd wedi eu harchebu yn gweithio ai peidio? Ac, os nad ydynt nhw a yw Trafnidiaeth Cymru wedi cynnwys unrhyw gymalau cosb yn y cytundeb gyda'r cyflenwr, trenau Porterbrook, ac a oes pwynt canslo sy'n rhoi'r dewis i Trafnidiaeth Cymru dynnu'r plwg ar y cytundeb hwnnw? Ac a yw Trafnidiaeth Cymru a'r Llywodraeth wedi gwneud unrhyw ddadansoddiad o'r goblygiadau o ran cost o orfod cadw'r trenau Pacer hŷn hyn yn weithredol o ran y costau cynnal a chadw?