1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 22 Hydref 2019.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd yr wrthblaid, Paul Davies.
Prif Weinidog, pam mae eich Llywodraeth wedi cynyddu'r cyfleuster benthyg i Faes Awyr Caerdydd gan £21.2 miliwn?
Wel, rydym ni wedi cynyddu taliad y benthyciad oherwydd y llwyddiant y mae Maes Awyr Caerdydd wedi ei gael yn ystod y cyfnod y mae wedi bod yn eiddo cyhoeddus ac oherwydd ein bod ni eisiau i'r llwyddiant hwnnw barhau a thyfu.
Wel, gadewch i ni fod yn eglur, Prif Weinidog—ers i Lywodraeth Cymru brynu Maes Awyr Caerdydd yn ôl yn 2013, mae eisoes wedi buddsoddi dros £90 miliwn o arian cyhoeddus. Nawr, gyda'r £21 miliwn ychwanegol hwn, mae hynny'n ddwywaith y swm a dalodd y Llywodraeth amdano, a beth fu'r canlyniadau? Ydy, mae nifer y teithwyr yn cynyddu, ond nid yn uwch na lefelau 2007. Fodd bynnag, hyd yn oed gyda'r cynnydd i nifer y teithwyr, mae'r maes awyr yn parhau i wneud colled. Yn ei ddatganiad ariannol diweddaraf, datgelodd y maes awyr bod ei golledion wedi cynyddu i £5.71 miliwn. Nawr, yn fy nghyn-broffesiwn, Prif Weinidog, pe byddai achos busnes yn dod ataf i gyda'r ffigurau hyn, byddwn i eisiau gweld cynllun eglur yn dangos sut y gallai ddychwelyd i elw yn ogystal â hyfywedd y busnes cyn darparu rhagor o gyfleusterau benthyg. Mae gan y maes awyr ddyledion o £38.2 miliwn ar hyn o bryd, ac eto mae eich Llywodraeth yn ymestyn hyn gan £21.2 miliwn pan fo'r maes awyr yn amlwg yn colli miliynau o bunnoedd. Pa gynllun busnes—pa gynllun busnes—y mae eich Llywodraeth wedi ei dderbyn i'ch argyhoeddi bod y cyfleuster benthyg hwn yn briodol ac mai dyma'r ffordd orau o ddefnyddio arian trethdalwyr? Ac a allwch chi roi sicrwydd i bobl Cymru nad mater o gynnig siec wag i'r maes awyr yw hyn ac y bydd yr arian hwn yn cael ei ad-dalu i drethdalwyr Cymru yn y pen draw?
Wel, Llywydd, mae gan y maes awyr, fel y mae'r Aelod yn gwybod, uwchgynllun drafft, sy'n darparu'n union yr hyn y mae'n gofyn amdano, ac mae hwnnw'n gynllun y mae Llywodraeth Cymru yn ei gymeradwyo. Rydym ni'n buddsoddi yn y maes awyr er mwyn sicrhau bod gan Gymru ased bywiog, y mae ei angen arnom ni ar gyfer ein heconomi yn ne Cymru gyfan. Rydym ni'n ffyddiog iawn ynglŷn â'r hyn y gall y maes awyr ei gyflawni. Bydd yr Aelod wedi gweld, heddiw ddiwethaf, bod TUI, y cwmni mwyaf o'i fath yn y Deyrnas Unedig, wedi cyhoeddi y bydd 15,000 o wyliau newydd yn cael eu gwerthu o faes awyr Cymru Caerdydd y flwyddyn nesaf, gan ddod â rhagor o deithwyr a rhagor o fusnes newydd i'r maes awyr hwnnw.
Yr hyn a fyddai'n helpu'r maes awyr, Llywydd, yw pe byddai ei Lywodraeth ef yn caniatáu i dollau teithwyr awyr gael eu datganoli i Gymru. Yr hyn a fyddai'n helpu fyddai pe byddai ei Lywodraeth ef yn caniatáu i'n maes awyr gael yr un manteision ag y mae meysydd awyr mawr dros ein ffin yn eu cael. Mae meysydd awyr rhanbarthol llai yn cael eu gwasgu yn y Deyrnas Unedig gan bolisïau rhanbarthol y Deyrnas Unedig a'u hymagwedd at y meysydd awyr hynny. Mae llawer iawn o bethau y gallai Llywodraeth y DU ei wneud i gynorthwyo Maes Awyr Caerdydd ac mae'n gwrthod yn lân â gwneud yr un ohonynt.
Wel, gadewch i mi atgoffa'r Prif Weinidog nad fi yw'r unig un sy'n credu bod angen newid y sefyllfa hon a bod yn rhaid i chi ystyried bellach cyflwyno gwahanol fodel busnes i wneud y maes awyr hwn yn llwyddiannus ar ôl chwe blynedd o wladoli. Fe'i gwnaed yn eglur yn ddiweddar gan eich cyfarwyddwr cyffredinol eich hun dros yr economi, sgiliau ac adnoddau naturiol y byddai angen i'w fodel busnes fod yn wahanol iawn, er mwyn iddo fod, neu ddychwelyd i fod, yn fenter gwbl fasnachol. Ond mae'n ymddangos i mi—[Torri ar draws.]—mae'n ymddangos i mi eich bod chi'n parhau i wneud yr un pethau gan obeithio am wahanol ganlyniad trwy gynnig siec wag.
Nawr, Prif Weinidog, bydd pobl yn dadlau y gellid bod wedi gwario'r benthyciad ychwanegol hwn ar gyfer y maes awyr ar ariannu ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol. Gallai £21 miliwn fynd ymhell yn wir—gallai £21 miliwn helpu i dalu am gyflogau mwy na 400 o feddygon teulu, neu bron i 900 o nyrsys, neu 700 o athrawon yn wir. Mae cynllun eich Llywodraeth ar gyfer y maes awyr yn dibynnu'n llwyr ar gynyddu nifer y teithwyr, ac eto, er bod nifer y teithwyr yn cynyddu'n araf, mae colledion y maes awyr yn parhau i dyfu'n gyflymach. Nid yw hynny'n gwneud unrhyw synnwyr. Dylai mwy o deithwyr olygu mwy o incwm i'r maes awyr. Pam mae'n mynd o chwith felly, Prif Weinidog, ac a yw eich Llywodraeth yn dal i fwriadu dychwelyd y maes awyr hwn i berchnogaeth breifat, ac, os felly, pa ddyddiad targed ydych chi wedi ei bennu i gyflawni hyn?
Wel, Llywydd, mae lefel y byrder golwg a fynegwyd yn y cwestiwn yna yn syfrdanol, yn ogystal â lefel yr anwybodaeth am fodelau busnes sylfaenol. Allwch chi ddim talu nyrsys allan o fenthyciadau cyfalaf, allwch chi? Mae'r syniad y gallwch chi yn hurt. Mae'n amlwg na allech chi fyth wneud hynny. Mae'r arian yr ydym ni wedi ei ddarparu i Faes Awyr Caerdydd, pe byddech chi'n cyfrif y cwbl, pe byddech chi'n cyfrif pob un ceiniog ohono, yn llai nag y mae ei Lywodraeth ef yn ei wario ar ymgyrch hysbysebu ar gyfer Brexit. Ble mae'r arian ar gyfer nyrsys a meddygon yn dod allan o'r £100 miliwn hwnnw, tybed?
Llywydd, mae 4,300 o feysydd awyr yn y byd y mae teithiau rheolaidd ohonynt yn rhan o'u gweithrediad—4,300. O'r rheini, mae 14 y cant mewn perchnogaeth breifat. Felly, mae Maes Awyr Caerdydd yn yr un sefyllfa â maes awyr JFK yn Efrog Newydd, maes awyr Schiphol yn Amsterdam, maes awyr Charles de Gaulle ym Mharis. Y model sydd gennym ni yng Nghymru yw'r model sy'n cael ei efelychu ledled y byd. Mae'n sicrhau bod gan y cyhoedd yng Nghymru faes awyr sydd ei angen arnynt, y mae'r economi ei angen, a byddwn yn buddsoddi i sicrhau ei fod yn llwyddo, pan fyddai ef wedi ei gau.
Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Prif Weinidog, rydym ni i gyd eisiau cyrraedd diwedd ein taith yn gynt ac yn fwy cyfforddus, a dylai addewidion a wnaed i deithwyr trên Cymru yn hyn o beth fod yn addewidion a gedwir. Dywedodd Trafnidiaeth Cymru y byddai trenau Pacer hen ffasiwn yn cael eu tynnu allan o wasanaeth erbyn diwedd y flwyddyn hon, ond gwyddom erbyn hyn, fel y cadarnhawyd gennych chi yr wythnos diwethaf, na fydd yr ymrwymiad hwn yn cael ei fodloni. Bydd trenau Pacer hefyd yn parhau i fod yn weithredol ar y llwybrau prysuraf yng ngogledd Lloegr y flwyddyn nesaf, er gwaethaf yr un ymrwymiad i gael gwared arnyn nhw yn raddol yno. Mae arweinwyr Llafur Manceinion fwyaf, dinas-ranbarth Sheffield a Leeds wedi cyhuddo'r cwmni trenau yno o drin teithwyr fel dinasyddion eilradd. Yng Nghymru, mae teithwyr yn cael eu digolledu am oediadau o 15 munud neu fwy; a wnaiff Trafnidiaeth Cymru ddigolledu teithwyr, yn yr un modd ag y mae Llafur yn galw amdano yn Lloegr, am drenau newydd a fydd yn cael eu gohirio am fisoedd?
Wel, y rhesymau pam mae'n rhaid i drenau Pacer gael eu cadw i mewn i 2020 yma yng Nghymru yw'r un rhesymau pam mae'n rhaid eu cadw ar fasnachfraint gogledd Lloegr hefyd, oherwydd methiant cwmnïau gweithgynhyrchu trenau i anrhydeddu'r contract a lofnodwyd gyda nhw, lle byddem ni wedi cael y trenau newydd hynny eisoes yma yng Nghymru ac yn barod i fynd ar y rhwydwaith. Dydyn nhw ddim wedi cyrraedd, er iddyn nhw lofnodi contractau i ddweud y gellid eu cyflenwi, a bydd angen i drenau Pacer barhau am gyfnod ychydig bach yn hwy, tan i'r capasiti hwnnw gyrraedd.
Yr hyn y mae Trafnidiaeth Cymru ar fin ei wneud yw cyhoeddi cynlluniau i wella prisiau tocynnau ar draws eu rhwydwaith cyfan o fis Ionawr 2020. Mae rhannau o'r rheini wedi eu cyhoeddi eisoes, Llywydd, fel y gwyddoch—ymestyn teithio am ddim i gynnwys pobl ifanc dan 11 oed, pobl ifanc dan 16 yn cael teithio am ddim ar adegau nad ydynt yn adegau brig pan eu bod yng nghwmni oedolyn, ac ymestyn tocynnau hanner pris i bobl ifanc 18 oed i lawr i bobl ifanc 16 a 17 oed hefyd. Ond bydd hynny'n dod gyda gostyngiadau ychwanegol i brisiau mewn rhannau o'r rhwydwaith pan fydd Trafnidiaeth Cymru yn gwneud ei gyhoeddiad ym mis Ionawr, a bydd hynny'n rhywfaint o iawndal i bobl yr addawyd iddyn nhw gan ddarparwyr preifat y byddai'r trenau hynny'n cyrraedd a phan nad yw'r addewidion hynny wedi eu cadw ganddyn nhw.
Felly, os wyf i'n dilyn y Prif Weinidog, yr hyn yr wyf i'n meddwl y mae'n ei ddweud yw mai'r rheswm am ymestyn y defnydd o drenau Pacer—nid etifeddiaeth y fasnachfraint ddiwethaf yn unig yw hynny, mae'n ganlyniad i rai o'r penderfyniadau caffael a'r problemau a wnaed o dan yr un yma. Nawr, a allwch chi gadarnhau bod Arriva wedi archebu trenau Flex, fel y'u gelwir rwy'n credu, pedwar i bum cerbyd, a bod Trafnidiaeth Cymru wedi ymestyn yr archeb honno i naw trên? A allwch chi gadarnhau a yw'r trenau trydan hyn â pheiriant diesel sydd wedi eu harchebu yn gweithio ai peidio? Ac, os nad ydynt nhw a yw Trafnidiaeth Cymru wedi cynnwys unrhyw gymalau cosb yn y cytundeb gyda'r cyflenwr, trenau Porterbrook, ac a oes pwynt canslo sy'n rhoi'r dewis i Trafnidiaeth Cymru dynnu'r plwg ar y cytundeb hwnnw? Ac a yw Trafnidiaeth Cymru a'r Llywodraeth wedi gwneud unrhyw ddadansoddiad o'r goblygiadau o ran cost o orfod cadw'r trenau Pacer hŷn hyn yn weithredol o ran y costau cynnal a chadw?
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn. Mae rhai manylion yn y fan yna y bydd ef yn deall nad ydyn nhw'n debygol o fod ar gael i mi ar unwaith. Gwnaeth bwynt pwysig ar y cychwyn, sef bod rhywfaint o hyn yn stwff etifeddiaeth o'r blynyddoedd hynny o Arriva a'u tanfuddsoddi a'r penderfyniadau a wnaed ganddyn nhw am gerbydau. Mae fy nghydweithiwr, y Gweinidog trafnidiaeth, yn dweud wrthyf bod camau diogelu wedi eu cynnwys yn y contractau a lofnodwyd gan Trafnidiaeth Cymru o ran y cerbydau newydd yr ydym ni'n mynd i'w cael yma yng Nghymru. Dywedais wrth y Siambr yr wythnos diwethaf yn fy nghyfarfod â CAF, sydd wedi sefydlu eu canolfan gweithgynhyrchu trenau yng Nghasnewydd, a sut y bydd y trenau hynny, sy'n cael eu gwneud yng Nghymru gan weithwyr Cymru, yn rhedeg ar reilffyrdd Cymru cyn diwedd y flwyddyn nesaf. Byddaf yn edrych ar fanylion cwestiwn yr Aelod, wrth gwrs, ac yn sicrhau ei fod yn cael ateb i'r pwyntiau penodol y mae wedi eu codi gyda mi.
Yr hyn a ddywedais mewn gwirionedd oedd nad yw'n ymddangos mai problem etifeddiaeth yw hon. Os ydych chi—trwy Trafnidiaeth Cymru, os yw'r Llywodraeth wedi caffael technoleg nad yw'n gweithio mewn gwirionedd, yna chi ddylai fod wedi gwneud y diwydrwydd dyladwy, a chi sy'n gyfrifol.
Nawr, mae gweddnewid ein seilwaith rheilffyrdd ugeinfed ganrif yn galw am ddull radical yn gyffredinol. Pe byddwn i eisiau gwneud y daith 36 milltir o Bont-y-pŵl i Dreherbert heb fynd mewn car, byddai bron yn well i mi fynd ar feic nag ar drên ar hyn o bryd. Ar yr adeg hon, ar brynhawn dydd Mawrth, mae'r daith drên yn cymryd dros ddwy awr. Nawr, mae teithio o'r dwyrain i'r gorllewin yng Nghymoedd y De mor anodd â theithio o'r gogledd i'r de yng Nghymru gyfan, ac am yr un rhesymau—Beeching ac etifeddiaeth economi echdynnol a roddodd flaenoriaeth i symud cynnyrch dros bobl. Onid nawr yw'r amser, Prif Weinidog, i weddnewid hynny'n llwyr ac, fel y mae Mark Barry a'm plaid i wedi ei gynnig, cysylltu Blaenau'r Cymoedd nid yn unig trwy ffyrdd ond drwy reilffyrdd, gan greu coridor newydd o ddatblygiad gyda chroes-reilffordd cludiant cyflym 50 cilomedr i'r Cymoedd?
Wel, yn gyntaf oll, Llywydd, mae'r Aelod yn hollol anghywir os yw'n credu nad yw etifeddiaeth Arriva, a'r blynyddoedd o esgeulustod a orfodwyd ar Gymru gan y fasnachfraint honno, a chan y methiant i fod yn gyfrifol am unrhyw dwf i nifer y teithwyr yn ei hystod—os yw'n credu nad oes problem etifeddiaeth yn y fan yna y mae'n rhaid ymdrin â hi, yna mae arnaf ofn bod angen iddo ddarllen ychydig am hanes hynny.
Nid wyf i'n derbyn nad yw'r dechnoleg yn gweithio. Rwyf i wedi dweud y byddaf yn ymchwilio i'w gwestiynau. Nid yw hynny'n golygu am funud fy mod i'n derbyn bod problem dim ond am ei fod ef yn honni y gallai fod un. Ac mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi symiau enfawr o arian i gwblhau ffordd Blaenau'r Cymoedd fel bod cyswllt o'r dwyrain i'r gorllewin yn y rhan honno o Gymru. Mae hynny'n dangos yn llwyr ymrwymiad y Llywodraeth hon i gymunedau'r Cymoedd ac i gysylltedd rhyngddynt.
Arweinydd Plaid Brexit, Mark Reckless.
Prif Weinidog, mae eich comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, Sophie Howe, wedi cyhoeddi nad yw cymwysterau TGAU yn addas i'w diben ac y dylid eu diddymu. Mae'n honni bod hyn yn angenrheidiol gan fod y cwricwlwm newydd yn disodli'r hyn a briodolwyd ganddi fel 'seilos' pynciau traddodiadol gyda chwe maes dysgu a phrofiad. Mae cyd-awdur ei Phapur Gwyn, yr Athro Calvin Jones, yn dweud eu bod yn cael trafferth gyda'r syniad o arholiad safonedig cyhoeddus sy'n rhoi gradd i ddisgyblion. Yn hytrach, maen nhw eisiau i ysgolion ganolbwyntio ar addysgu sgiliau empathi, deallusrwydd emosiynol, artistiaeth, creadigrwydd, rhoi gofal a thorri carbon. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â'u gweledigaeth ar gyfer dyfodol addysg yng Nghymru?
Wel, rwy'n cytuno bod cyflwyno'r cwricwlwm newydd yn gofyn am fframwaith cymwysterau newydd i gyd-fynd ag ef—dyna pam mae Cymwysterau Cymru yn gwneud yn union hynny. Roeddwn i'n meddwl bod y cyfraniad gan gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, fel arfer, yn gyfraniad pwysig at y ddadl, gan fy mod i'n meddwl bod yr adroddiad heddiw gan Senedd Ieuenctid Cymru ar yr un pwnc yn arbennig o ddiddorol a defnyddiol. Mae'n disgrifio'r perygl y bydd ysgolion Cymru yn cynhyrchu 'robotiaid A*', sy'n golygu eu bod nhw'n addysgu eu disgyblion yn dda iawn i lwyddo mewn arholiadau, ond nad yw'r plant hynny o reidrwydd yn meddu ar y math o sgiliau meddwl, y math o allu beirniadol, yr ydym ni'n gwybod bod cyflogwyr yn dweud wrthym ni y maen nhw'n chwilio amdanynt ymhlith pobl ifanc sy'n dechrau yn y gweithle. Roeddwn i'n meddwl ei bod yn arbennig o ddiddorol bod y safbwynt hwnnw'n dod gan bobl ifanc eu hunain. Mae'r Gweinidog yn cyfarfod â'r Senedd Ieuenctid ddydd Gwener i drafod eu hadroddiad. Gan ystyried hynny a gwaith y comisiynydd gyda'i gilydd, byddan nhw'n gyfraniadau pwysig at feddwl am y ffordd y mae gennym ni ddull cymwysterau sy'n cyd-fynd â'r cwricwlwm newydd radical yr ydym ni'n ei gyflwyno yng Nghymru.
Ond a yw ein hysgolion yn addysgu disgyblion yn dda iawn i lwyddo mewn arholiadau—neu o leiaf yn ddigonol—ar sail y canlyniadau presennol? Un newid yr ydym ni'n ei gael, y dylwn i ei groesawu, a gyhoeddwyd gan yr Ysgrifennydd addysg y bore yma, yw ein bod ni'n gweld cynnydd o 2.75 y cant i gyflogau athrawon a 5 y cant i'r rhai sydd newydd gymhwyso, ac, rwy'n credu, £12.8 yn y flwyddyn gyfredol i gefnogi hynny. Fodd bynnag, a yw'r Prif Weinidog yn cytuno y gallai hyn fod yn rhy ychydig, yn rhy hwyr i fynd i'r afael â'r argyfwng dwys yr ydym ni'n ei weld o ran recriwtio athrawon ar hyn o bryd?
A wnaiff ef hefyd ystyried a yw safonau addysg is yng Nghymru o'u cymharu â Lloegr, o leiaf ar sail y canlyniadau y gallwn ni eu cymharu a sgoriau'r Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr, yn adlewyrchu mwy na dim ond blaenoriaethau gwario cymharol? Onid ydyn nhw hefyd yn adlewyrchu polisi blaengar a diffyg cymhariaeth lem o gyflawniad ymhlith disgyblion, ysgolion a chenhedloedd y DU? Mae adroddiadau Estyn wedi cael gwared ar eu cymariaethau cyfnod allweddol 2 ymhlith ysgolion; mae Llywodraeth Cymru wedi cael gwared ar ei tharged ar gyfer pum TGAU da, gan gynnwys Mathemateg a Chymraeg neu Saesneg; ac rydym ni wedi gweld ein graddau TGAU A i G yn ymwahanu oddi wrth yr 1 i 9 sydd ganddyn nhw yn Lloegr erbyn hyn. Ai'r cam olaf o ran rhoi terfyn ar atebolrwydd am fethiant y Llywodraeth hon ym maes addysg yw cymryd y cam syml o ddiddymu cymwysterau TGAU?
Wel, yn sicr, nid wyf yn cytuno â hynny, wrth gwrs, Llywydd. Roedd y graddau A* mewn cyrsiau Safon Uwch yng Nghymru yn yr haf y gorau o unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig—y gorau oll, yn well nag unrhyw ran o Loegr, yn well na'r Alban. Pobl ifanc Cymru yn ennill y graddau uchaf oll mewn arholiadau ac yn gwneud yn well na neb arall—nid wyf i'n ystyried hynny'n fethiant yn ein system. Ac mae ei agwedd Gradgrind tuag at addysg, ei bod yn bodoli’n syml i ffactoreiddio plant drwy system fel eu bod yn dod allan ar ei diwedd, nid fel pobl ifanc sydd wedi cael addysg eang, nid fel pobl ifanc sy'n cael eu haddysgu i feddwl yn feirniadol, nid fel pobl ifanc sy'n gallu deall, dadlau a chymryd rhan yn y ffordd ehangach honno, ond dim ond i gael cyfres o gymwysterau, nid dyna fy syniad i o addysg, oherwydd rwyf i eisiau i'n plant gael y ddau. Rwyf i eisiau iddyn nhw gael cymwysterau llwyddiannus, ond rwyf i eisiau iddyn nhw gael profiad o addysg a fydd yn eu paratoi ar gyfer bywyd yn yr unfed ganrif ar hugain, a dyna fydd ein cwricwlwm ni yn ei ddarparu.