Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 22 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 1:49, 22 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Prif Weinidog, rydym ni i gyd eisiau cyrraedd diwedd ein taith yn gynt ac yn fwy cyfforddus, a dylai addewidion a wnaed i deithwyr trên Cymru yn hyn o beth fod yn addewidion a gedwir. Dywedodd Trafnidiaeth Cymru y byddai trenau Pacer hen ffasiwn yn cael eu tynnu allan o wasanaeth erbyn diwedd y flwyddyn hon, ond gwyddom erbyn hyn, fel y cadarnhawyd gennych chi yr wythnos diwethaf, na fydd yr ymrwymiad hwn yn cael ei fodloni. Bydd trenau Pacer hefyd yn parhau i fod yn weithredol ar y llwybrau prysuraf yng ngogledd Lloegr y flwyddyn nesaf, er gwaethaf yr un ymrwymiad i gael gwared arnyn nhw yn raddol yno. Mae arweinwyr Llafur Manceinion fwyaf, dinas-ranbarth Sheffield a Leeds wedi cyhuddo'r cwmni trenau yno o drin teithwyr fel dinasyddion eilradd. Yng Nghymru, mae teithwyr yn cael eu digolledu am oediadau o 15 munud neu fwy; a wnaiff Trafnidiaeth Cymru ddigolledu teithwyr, yn yr un modd ag y mae Llafur yn galw amdano yn Lloegr, am drenau newydd a fydd yn cael eu gohirio am fisoedd?