Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 22 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 1:54, 22 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Yr hyn a ddywedais mewn gwirionedd oedd nad yw'n ymddangos mai problem etifeddiaeth yw hon. Os ydych chi—trwy Trafnidiaeth Cymru, os yw'r Llywodraeth wedi caffael technoleg nad yw'n gweithio mewn gwirionedd, yna chi ddylai fod wedi gwneud y diwydrwydd dyladwy, a chi sy'n gyfrifol.

Nawr, mae gweddnewid ein seilwaith rheilffyrdd ugeinfed ganrif yn galw am ddull radical yn gyffredinol. Pe byddwn i eisiau gwneud y daith 36 milltir o Bont-y-pŵl i Dreherbert heb fynd mewn car, byddai bron yn well i mi fynd ar feic nag ar drên ar hyn o bryd. Ar yr adeg hon, ar brynhawn dydd Mawrth, mae'r daith drên yn cymryd dros ddwy awr. Nawr, mae teithio o'r dwyrain i'r gorllewin yng Nghymoedd y De mor anodd â theithio o'r gogledd i'r de yng Nghymru gyfan, ac am yr un rhesymau—Beeching ac etifeddiaeth economi echdynnol a roddodd flaenoriaeth i symud cynnyrch dros bobl. Onid nawr yw'r amser, Prif Weinidog, i weddnewid hynny'n llwyr ac, fel y mae Mark Barry a'm plaid i wedi ei gynnig, cysylltu Blaenau'r Cymoedd nid yn unig trwy ffyrdd ond drwy reilffyrdd, gan greu coridor newydd o ddatblygiad gyda chroes-reilffordd cludiant cyflym 50 cilomedr i'r Cymoedd?