Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 22 Hydref 2019.
Yn ogystal â gofyn i gynghorau sir gyflwyno cynlluniau i leihau’r nifer, mae eich Llywodraeth chi hefyd yn gofyn iddyn nhw osod targedau ar gyfer lleihau nifer y plant mewn gofal, ac mi fyddwch chi’n ymwybodol, efallai, fod Cyngor Gwynedd a nifer o gynghorau eraill yn gwrthod cydymffurfio â’r gofyniad hwn i osod targed, gan ei weld o fel cam gwag ac un peryglus hefyd. A dwi’n cytuno. Nid defnyddio ffigurau mympwyol ydy’r ffordd o daclo’r nifer cynyddol o blant mewn gofal, ond yn hytrach mae angen edrych ar pam fod y nifer yn codi a rhoi’r ffocws ar wella canlyniadau i blant mewn gofal. Ydych chi’n fodlon ailedrych ar eich polisi o osod targedau?