Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 22 Hydref 2019.
Wel, rwy'n anghytuno â'r Aelod, Llywydd, oherwydd rydym ni'n troi at dargedau yn anfoddog. Nid dyna oedd ein dewis cyntaf o wneud pethau yn sicr, ond rydym ni wedi rhoi cynnig—rydym ni wedi rhoi cynnig am bron i ddegawd ar yr holl fesurau eraill y mae'r Aelod yn cyfeirio atyn nhw. Mae'r Llywodraeth hon wedi ariannu, droeon, flwyddyn ar ôl blwyddyn, mentrau i leihau nifer y plant sy'n cael eu rhoi mewn gofal yma yng Nghymru. Rydym ni wedi darparu arian yn uniongyrchol i awdurdodau lleol, rydym ni wedi noddi, drwy awdurdodau lleol, cynhyrchiad adroddiadau, fel adroddiad Cordis Bright, a nododd dros bum mlynedd yn ôl ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru y camau ymarferol y gallen nhw eu cymryd i leihau nifer y plant y maen nhw'n eu cymryd i dderbyn gofal. Rydym ni wedi ariannu mentrau eraill i wneud yr un peth yn union, ac eto, flwyddyn ar ôl blwyddyn ar ôl blwyddyn, mae nifer y plant sy'n cael eu derbyn i ofal yng Nghymru yn codi. Mae wedi codi bob blwyddyn ers 20 mlynedd. Ac mae'r bwlch rhwng y gyfradd y cymerir plant oddi wrth eu teuluoedd yng Nghymru ac sy'n cael eu cymryd oddi wrth eu teuluoedd ar draws ein ffin wedi ehangu bob blwyddyn hefyd. Ac nid yw Gwynedd yn ddiogel rhag hyn. Mae nifer y plant sy'n cael eu cymryd i ofal yng Ngwynedd wedi cynyddu'n gyson o flwyddyn i flwyddyn dros y pedair blynedd diwethaf. Mae'r gyfradd y mae Gwynedd yn cymryd plant oddi wrth eu teuluoedd wedi codi o flwyddyn i flwyddyn yn ystod y pedair blynedd diwethaf. Os darllenodd yr Aelodau yn y fan yma yr adroddiad yr wythnos diwethaf am y gyfradd y mae plant yng Nghymru yn cael eu cymryd ar adeg eu geni oddi wrth eu teuluoedd, byddan nhw wedi gweld bod Gwynedd yn gwneud hynny ar gyfradd gyflymach nag awdurdodau lleol eraill yng Nghymru. Nid yw'r syniad bod gan Wynedd ddim i'w ystyried a dim i'w ddysgu yn gwrthsefyll archwiliad.
Nawr, mae ein targedau yno'n syml i ganolbwyntio meddyliau awdurdodau lleol ar y broblem hon, ac mae 18 o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru wedi cytuno i wneud hynny. Felly, mae Gwynedd mewn lleiafrif bach o gynghorau sydd heb ddod gyda ni ar y daith hon. Yn sicr nid yw'r targedau yno i atal gweithwyr cymdeithasol rhag gwneud y penderfyniadau iawn, ond maen nhw yno i ganolbwyntio meddyliau awdurdodau lleol ar un o'r heriau mawr sydd gennym ni o ran polisi cyhoeddus yng Nghymru, a phroblem sy'n gwaethygu, ac sydd wedi gwaethygu bob blwyddyn ers 20 mlynedd. Dyna pam yr ydym ni'n gwneud hyn, a dyna pam mai dyma'r peth iawn i'w wneud, a dyna pam rwy'n ddiolchgar i'r 18 awdurdod lleol yng Nghymru sydd wedi cytuno mai dyma'r ffordd iawn i fynd i'r afael â'r broblem.