Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 22 Hydref 2019.
Yn ystod toriad yr haf, cefais y pleser o ymweld â safle adeiladu Hinkley Point a chanfod bod y cyfle hwnnw'n golygu bod 25 y cant o'r gweithlu wedi eu lleoli yng Nghymru, ac mae'n bwysig iawn bod manteision y gwariant hwnnw—cyfanswm o £19 biliwn—yn cael eu teimlo yn economi Cymru hefyd. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod cwmnïau yng Nghymru ar flaen y gad pan ddaw i ddyfarnu contractau ar y gwaith adeiladu hwnnw, ac yn arbennig, hyrwyddo'r sgiliau sydd ar gael i gyflogeion ddod o hyd i waith yn y prosiect penodol hwnnw?