Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 22 Hydref 2019.
Llywydd, rwy'n cytuno â'r Aelod bod angen manteisio ar y cyfleoedd economaidd a sicrhau eu bod ar gael i weithwyr Cymru. Mae camau a gymerwyd gan fy nghyd-Weinidog Ken Skates wedi gwneud yn siŵr bod y cyfleoedd hynny'n cael eu hysbysebu'n dda i weithwyr yng Nghymru.
Yn ddiweddar, roeddwn i'n bresennol mewn galwad gynadledda gan Unite: yr Undeb, pryd y tynnwyd sylw ganddyn nhw at y camau y maen nhw wedi eu cymryd i wneud yn siŵr bod sgiliau gweithwyr Cymru yn hysbys i'r cyflogwyr yn y prosiect hwnnw, a bod gweithwyr Cymru, pan fydd cyfleoedd yn codi, yn gallu manteisio arnyn nhw.