Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 22 Hydref 2019.
Diolchaf i Joyce Watson am hynna. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n galed, gydag eraill, i atal troseddau casineb, i gynorthwyo dioddefwyr ac i hybu cydlyniant cymunedol. Er mwyn cydnabod y tensiynau a'r rhaniadau sydd wedi codi ers refferendwm yr UE, rydym ni wedi defnyddio cronfa bontio'r UE i atgyfnerthu ein gwaith yn sylweddol yn y maes hwn.