1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 22 Hydref 2019.
6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â throseddau casineb? OAQ54609
Diolchaf i Joyce Watson am hynna. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n galed, gydag eraill, i atal troseddau casineb, i gynorthwyo dioddefwyr ac i hybu cydlyniant cymunedol. Er mwyn cydnabod y tensiynau a'r rhaniadau sydd wedi codi ers refferendwm yr UE, rydym ni wedi defnyddio cronfa bontio'r UE i atgyfnerthu ein gwaith yn sylweddol yn y maes hwn.
Diolchaf i chi am yr ateb yna, ond mae ffigurau diweddar a gafwyd gan y Swyddfa Gartref wedi dangos cynnydd o 29 y cant mewn troseddau casineb ledled Cymru a Lloegr, a gwelir y cynnydd mwyaf mewn troseddau casineb at bobl drawsrywiol ac anabl. Rydym ni hefyd wedi gweld y rhethreg a'r iaith a welwyd yn cael ei defnyddio gan ffigyrau gwleidyddol blaenllaw yn ddiweddar iawn, ac, yn fy marn i, y cwbl y mae hynny wedi ei wneud yw ychwanegu tanwydd at y tân, yn enwedig pan ddaw i droseddau casineb ar sail hiliol a chrefyddol. Troseddau casineb sy'n seiliedig ar hil unigolyn yw tri chwarter yr holl droseddau casineb yr adroddir amdanynt, a chefais fy nychryn, ac rwy'n siŵr y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn y Siambr hon, o weld y camdriniaeth hiliol a ddioddefwyd gan nifer o chwaraewyr pêl-droed Lloegr yn Bwlgaria yn ddiweddar, a hefyd ddydd Sadwrn pan boerwyd ar gôl-geidwad Haringey ac y taflwyd poteli ato, gan arwain, yn gwbl briodol, at y chwaraewyr hynny yn cerdded oddi ar y cae. Ond y pryder gwirioneddol yn y fan yma, pan fyddwch chi'n gweld rhai o'r lluniau hynny, yw mai pobl ifanc sy'n cyflawni'r gweithredoedd hyn, a'r broblem gyda hynny yw ein bod ni'n sôn am y genhedlaeth nesaf yn dod drwodd. Felly, Prif Weinidog, rwy'n gofyn pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o ran ystadegau diweddar y Swyddfa Gartref ynghylch y cynnydd sy'n peri pryder, a pha un a ydych chi wedi cael unrhyw sgyrsiau o gwbl gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru ac yn arbennig Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth?
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn ac am y gwaith y mae hi wedi ei wneud mor gyson dros y blynyddoedd yn y maes hwn, ac am y rhan y mae hi wedi ei chwarae i sicrhau y bydd y Cynulliad hwn yn trafod y mater hwn ar y llawr yn y fan yma brynhawn yfory. Wrth feddwl am ffigurau'r Swyddfa Gartref, yna rwy'n credu bod pedwar peth yr wyf i'n eu cymryd ohonynt yn syth, Llywydd. Y cyntaf yw nad yw Cymru yn rhydd o droseddau casineb a'r erchyllterau a ddaw yn eu sgil, ac ni ddylem byth feddwl, rywsut, nad yw'r pethau hyn yn digwydd yma—maen nhw—ac, yn ail, y ceir cyfuniad o well adrodd a chofnodi y tu ôl i'r ffigurau yn ogystal â chynnydd gwirioneddol i nifer yr achosion. Bu gennym ni bolisi yng Nghymru ers 2014 o annog adrodd yn y maes hwn, o berswadio pobl i fod â hyder i ddod ymlaen at yr heddlu, ac yna gweithio gyda'r heddlu i wneud yn siŵr bod yr adroddiadau hynny'n cael eu cofnodi a'u hadrodd yn gywir. Felly, mae rhywbeth, gobeithio, yn y ffigurau hyn sy'n dangos bod pobl yn fwy parod i ddod ymlaen ac yn fwy parod i gymryd y pethau hyn o ddifrif. Ond yn ogystal â hynny, mae cynnydd gwirioneddol i nifer y digwyddiadau yn y ffigurau hyn hefyd.
Rwy'n credu mai'r trydydd peth a ddysgais o'r ffigurau yw bod troseddau casineb yn digwydd ar draws yr ystod gyfan o dargedau; troseddau casineb hiliol yw 68 y cant o droseddau casineb, ond fel y dywedodd Joyce Watson, cofnodwyd dros 400 o droseddau casineb ar sail anabledd yng Nghymru y llynedd. Nid wyf i'n deall o gwbl—sut y gallai unrhyw un feddwl bod rhywun sydd eisoes yn gorfod ymdrin â phroblemau anabledd yn dod yn ddioddefwr trosedd oherwydd yr anabledd y mae'n ei ddioddef. A chynnydd o 88 y cant, y cynnydd mwyaf oll, fel y dywedodd Joyce Watson, i droseddau casineb trawsrywiol.
Rwy'n credu mai'r pedwerydd pwynt yr wyf i'n ei gymryd ohono, Llywydd, yw pwysigrwydd y buddsoddiad yr ydym ni'n ei wneud yng Nghymru i wrthsefyll troseddau casineb—yr arian ychwanegol yr ydym ni wedi ei roi i'r ganolfan adrodd a chymorth cenedlaethol ar gyfer troseddau casineb, y buddsoddiad ychwanegol yn y grant troseddau casineb cymunedau lleiafrifol, y grant cydlyniant cymunedol yr ydym ni'n ei ddarparu trwy Lywodraeth Cymru, a gefnogir ar draws y Siambr yn y fan yma, mi wn. Mae'r pethau hyn i gyd yn helpu i wneud gwahaniaeth, a thrwy weithio gydag eraill, boed hynny'n Dangos y Cerdyn coch i Hiliaeth neu gyrff ffurfiol fel Cymdeithas Bêl-droed Cymru, y gallwn wneud yr hyn a allwn i leihau presenoldeb atgas troseddau casineb yng Nghymru fel mewn mannau eraill.