Part of the debate – Senedd Cymru am 5:20 pm ar 22 Hydref 2019.
Gwyddoch yn iawn—mae'r Aelod yn gwybod yn iawn—fy mod wedi parchu canlyniad y refferendwm a dylai yntau barchu canlyniad y refferendwm hwn. A gadewch imi atgoffa'r Aelod dros Flaenau Gwent fod 62 y cant o'i etholwyr wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd ac y dylech fod yn sefyll dros y bobl hynny.
Wrth gwrs, y dewis arall—[Torri ar draws.] Wrth gwrs, y dewis arall yn lle'r Cytundeb sydd ger ein bron yw bwrw ymlaen heb gytundeb. Am fisoedd a misoedd, rydym ni wedi clywed am yr effaith y byddai Brexit 'dim cytundeb' yn ei chael ar Gymru, a dyma un maes lle rwy'n rhannu pryderon y Prif Weinidog. Mae busnesau ac arweinwyr diwydiant ledled Cymru wedi ei gwneud hi'n glir y bydd Cymru'n dioddef os bydd Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb. Pan fo'n rhaid dewis rhwng un sefyllfa neu'r llall, byddech yn credu bod gan Lywodraeth Cymru ddyletswydd foesol i osgoi Brexit heb gytundeb, felly mae'n fwy siomedig fyth bod y Prif Weinidog a'i gydweithwyr yn San Steffan yn parhau i lesteirio'r broses hyd yn oed mor hwyr â hyn yn y dydd.
Ac mae'n rhaid i mi ddweud—mae'n rhaid i mi ddweud—[Torri ar draws.] Byddaf mewn munud. Rhaid imi ddweud bod yr AS dros Don Valley, Caroline Flint, yn llygad ei lle ddydd Sadwrn i ddweud nad oedd gan rai o'i chyd-Aelodau, a dyfynnaf:
ddim syniad na hyder y byddai cytundeb ger ein bron heddiw a fyddai'n caniatáu i'r rhai ohonom ni yn y Tŷ hwn sydd eisiau cael cytundeb i symud ymlaen a gadael yr Undeb Ewropeaidd erbyn 31 Hydref? O ganlyniad, os bydd y Tŷ yn pleidleisio o blaid gwelliant (a) heddiw, cawn ein gorfodi—hyd yn oed os cymeradwyir cytundeb—i ofyn am estyniad tan 31 Ionawr, gan danlinellu mai dim ond un cymhelliant a oedd gan noddwyr Deddf Benn: gohirio Brexit a'i atal.
Wel, mae'n rhaid i mi ddweud ei bod hi'n hollol gywir. Mae'n ymwneud â gohirio Brexit ac atal Brexit. Yn wir, mae'r llythyr ar y cyd a lofnodwyd gan Brif Weinidogion Cymru a'r Alban yn cadarnhau bod Caroline Flint yn iawn wedi'r cyfan.
Nawr, dywed adroddiad ar ôl adroddiad wrthym fod yr ansicrwydd presennol ynghylch sut y byddai Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd wedi bod yn niweidiol i fusnesau Cymru, a dywedaf wrth y Prif Weinidog: rydym ni bellach mewn sefyllfa i roi terfyn ar yr ansicrwydd presennol hwnnw gyda chytundeb cynhwysfawr, ac felly ni allaf ddeall pam y byddai Llywodraeth Cymru eisiau ymestyn y cyfnod hwnnw o ansicrwydd yn hwy nag sy'n gwbl angenrheidiol. Fodd bynnag, yn lle cydnabod diwedd yr ansicrwydd hwnnw, ymateb y Prif Weinidog i'r cytundeb y cytunwyd arno oedd ei gwneud hi'n glir y byddai cytundeb yn arwain at niwed enfawr i economi Cymru ac i swyddi yng Nghymru, gan fod y Llywodraeth hon mor ymrwymedig i aros yn yr Undeb Ewropeaidd ei bod yn fodlon mynd yn groes i ewyllys pobl Cymru. A dyna yw safbwynt Brexit Llywodraeth Cymru drwyddi draw, onid e? Dim datrysiad, dim strategaeth ac yn sicr dim cefnogaeth i ganlyniad y refferendwm.
Dylai'r Prif Weinidog fod yn onest unwaith ac am byth a chyfaddef nad oes ganddo ef na'i Lywodraeth unrhyw fwriad i gefnogi unrhyw gytundeb sy'n golygu bod Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, ac felly mae'n codi'r cwestiwn: pam nad yw Llywodraeth Cymru yn cyfaddef ar goedd ei bod eisiau dirymu erthygl 50? O leiaf mae Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi datgan yn glir eu bod eisiau atal Brexit. Gadewch imi atgoffa'r Aelodau fod y gwir ddifrod i economi a swyddi Cymru wedi'i wneud gan Lywodraethau llwyddiannus Llafur Cymru a'r rhai a arweinir gan Lafur, sydd wedi methu â chyflawni ar gyfer busnesau Cymru a diwydiannau Cymru. A gadewch i ni ystyried adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, a oedd yn dangos nad yw Cymru wedi manteisio ar y cyllid a oedd ar gael yn y gorffennol a oedd yn gysylltiedig â'r rhwydwaith trafnidiaeth traws-Ewropeaidd. Felly, mae'n amlwg bod Llywodraeth Cymru wedi methu â chydweithio â llywodraethau'r DU a'r UE i gefnogi seilwaith Cymru yn well yn y gorffennol. Ac, os bydd gennyf amser, byddaf yn ildio i'r Aelod dros Gaerffili.