10. Dadl: Brexit

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:24 pm ar 22 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hefin David Hefin David Labour 5:24, 22 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Rwy'n credu mai un o'r pethau y mae arweinydd y Ceidwadwyr yn dda yn ei wneud yw craffu. Oni fyddai'n cytuno—a gadewch inni geisio tynnu rhywfaint o'r gwres pleidiol allan o hyn—oni fyddai'n cytuno fod tri diwrnod ar gyfer Bil mor swmpus â hwn yn annigonol i  graffu arno'n briodol? Oni fyddai'n cytuno â hynny'n unig?