Part of the debate – Senedd Cymru am 5:52 pm ar 22 Hydref 2019.
Gwnaf. Yn gyntaf oll, oni fyddech yn cytuno eich bod wedi cael deugain mlynedd i brofi i bobl Prydain mai'r Undeb Ewropeaidd yw eu dewis gorau? Ac ar ôl deugain mlynedd o fod yn yr Undeb Ewropeaidd, dywedodd pobl Prydain, 'Nid dyna'r dewis sydd arnom ni ei eisiau. Rydym ni eisiau ymadael â'r Undeb Ewropeaidd oherwydd ein bod yn credu y byddai Prydain yn well ei byd y tu allan i'r undeb hwnnw.'