Part of the debate – Senedd Cymru am 5:53 pm ar 22 Hydref 2019.
Gadewch i mi ddweud hyn: yn y refferendwm hwn yr wyf eisiau iddo ddigwydd, os dywed pobl, 'Rydym yn gadael'—fe wnawn ni adael. [Torri ar draws.] [Anghlywadwy.]—o feinciau'r Ceidwadwyr, 'Sawl refferendwm ydych chi eisiau?' Os bydd refferendwm, fel yr ydym yn dymuno nawr—dyna ni, os 'gadael' fydd y canlyniad. Dyma ein dadl ni: nid oedd gennym yr wybodaeth i allu gwneud penderfyniad gwybodus. Nawr, mae honno gennym ni.