Part of the debate – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 22 Hydref 2019.
Llywydd, credaf fod y Prif Weinidog wedi ateb rhai o'r cwestiynau hyn yn ystod ei drafodaeth ag arweinydd Plaid Cymru y prynhawn yma. Ond, i ailadrodd, bydd y stoc y mae Leanne Wood yn cyfeirio ato yn cael ei ddileu'n raddol yn gynnar yn y flwyddyn newydd. Maen nhw'n cael eu cadw ar y cledrau ar hyn o bryd er mwyn cynnal capasiti. Ac wrth gwrs, mae cerbydau ar draws y DU i gyd; nid yw hwn yn fater sydd wedi'i gyfyngu'n benodol i Gymru. A nododd y Prif Weinidog hefyd y cynigion ar gyfer y dyfodol o ran gostwng prisiau tocynnau ar draws Cymru hefyd.