Part of the debate – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 22 Hydref 2019.
Wel, dechreuwyd ymgynghori ar y canllawiau statudol newydd ar addysg yn y cartref ddiwedd Gorffennaf gan ddod i ben ddoe. Ond rwy'n siŵr, os ysgrifennwch at y Gweinidog gyda'r pryderon penodol yr ydych wedi eu codi yn y Siambr y prynhawn yma y byddai'n falch o edrych arnynt fel rhan o'r broses o ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad.