Part of the debate – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 22 Hydref 2019.
Fel y dywed Dai Lloyd, rwy'n gyfarwydd â'r achos penodol sydd ar y gweill drwy fy swyddogaeth yn yr etholaeth, a deallaf fod y cyfleuster ynni a yrrir gan nwy yn gyfleuster a fydd yn ymdrin ag ymchwydd mewn ynni, yn hytrach na bod yn waith ynni llawn amser, fel petai. Byddaf yn sicr yn gofyn i'r Gweinidog sy'n gyfrifol am ynni roi rhywfaint o ystyriaeth i'r achos penodol hwn, ac archwilio pa drafodaethau sydd wedi'u cynnal gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod gennym fynediad at ynni dibynadwy ond hefyd gymaint o ynni adnewyddadwy â phosibl.