Part of the debate – Senedd Cymru am 4:10 pm ar 22 Hydref 2019.
Sail y brand newydd ydy'r pwyslais yma ar 'flynyddoedd', ond nid mater o un flwyddyn ar y tro yn unig ydy hyn erbyn hyn. Rydyn ni'n ymestyn y blynyddoedd dros ddwy flynedd, fel bod y themâu yma yn gallu cyd-weu â'i gilydd—themâu fel 'chwedlau', 'antur', 'y môr', ac i ddod yn y flwyddyn nesaf, 'Blwyddyn Awyr Agored'. Mae'r rhain yn dod â sefydliadau gwahanol ledled Cymru at ei gilydd o dan faner i dynnu sylw at y gorau o ddiwylliant, tirwedd ac anturiaethau Cymru.
Dwi'n falch iawn hefyd o'r buddsoddiad sydd wedi cael ei wneud yn y cynnyrch gwych sydd wedi newid canfyddiadau pobl o Gymru. Fyddwch chi ddim yn synnu imi gyfeirio at Zip World, lle gall genhedlaeth newydd brofi ein hetifeddiaeth a'n treftadaeth ddiwydiannol—os ydyn nhw'n cael cyfle i weld yr hyn maen nhw'n ei basio mor gyflym, os ydyn nhw'n mynd i gyflymder o dros 90 milltir yr awr. Ond mae'r atyniadau yna—ac, wrth gwrs, Surf Snowdonia, y morlyn syrffio cyntaf yn y byd—wedi pwysleisio pwysigrwydd antur yn nhirwedd Cymru.
Dwi'n gwybod hefyd fod pobl drwy Gymru a thu hwnt wedi mwynhau y digwyddiadau rydyn ni wedi'u cefnogi fel Llywodraeth: rowndiau terfynol Cynghrair y Pencampwyr UEFA; Ras Cefnfor Volvo; digwyddiadau lleol fel Gŵyl y Gelli; ac yna lle y mae yna ddigwyddiadau rhyngwladol yn dod drwy Gymru, p'un ai rhai beicio a rhai'n ymwneud â moduro ac yn y blaen. Drwy ddod ag ymwelwyr i Gymru, mae'r cynnyrch newydd yma—digwyddiadau gwych a'r cymorth ar gyfer marchnata—yn dangos pa mor allweddol yw twristiaeth i economi Cymru.
Mae yna dros 11,500 o fusnesau twristiaeth yng Nghymru. Mae'r rhain yn dod â £6.3 biliwn i'r economi. Mae oddeutu 9 y cant o gyflogaeth actif yn yr economi mewn twristiaeth. A dyna pam fy mod i'n falch iawn ein bod ni fel Llywodraeth wedi cydnabod twristiaeth fel rhan o economi sylfaenol o fewn y cynllun gweithredu economaidd, ac o'r trywydd rydyn ni wedi'i osod ac rydyn ni bron â'i gyrraedd yn ein cynllun twristiaeth presennol, sef cynyddu ein hincwm o 10 y cant dros gyfnod.
Mae hyn yn fy arwain i, felly, at amlinellu rhai o'r blaenoriaethau newydd. Mae twristiaeth yn sbardun economaidd ar draws Cymru. Rydyn ni'n teimlo hefyd y gallwn ni wneud mwy drwy'r economi ymwelwyr er mwyn hyrwyddo'r economi gyffredinol. Nid yn unig rydyn ni wedi gallu sicrhau swyddi drwy dwristiaeth, cefnogi cymunedau drwy naws am le, cynnal brwdfrydedd dros ein treftadaeth a'n diwylliant, a chreu cyfleoedd i gynnal gweithgaredd corfforol, sydd mor bwysig ar gyfer iechyd y genedl a'n hymwelwyr ar draws Cymru—. Ac felly, uchelgais y cynllun gweithredu newydd, fel y gwelwch chi pan gyhoeddir o ym mis Rhagfyr, ydy datblygu twristiaeth er lles Cymru. Mae hynny'n golygu ei bod hi'n dal yn bwysig i ddatblygu twristiaeth, ond mewn ffordd sydd yn cynnig manteision ehangach i ddiwylliant, i gymunedau, gan wneud hynny drwy ddiogelu'r amgylchedd. Hynny yw, twristiaeth gynaliadwy yw twristiaeth Gymreig, ac mae'r weledigaeth yma'n ganolog i'r cynllun llywio, fel y gwelwch chi pan ddaw o allan.
Rydw i wedi ei gwneud hi'n glir nad gweledigaeth Llywodraeth yw hon na gweledigaeth un adran ohoni. Pan gychwynnon ni weithio ar y cynllun yma, fe wnaethon ni ohebu gyda Gweinidogion ac Aelodau'r Cynulliad i ofyn am gael gwybodaeth am eich gweledigaeth chi ar gyfer dyfodol twristiaeth. Mae'r gwahoddiad yna'n cael ei ailadrodd heddiw, cyn inni gwblhau'r cynllun yn derfynol.