Part of the debate – Senedd Cymru am 4:15 pm ar 22 Hydref 2019.
Mi ddywedwyd wrthyf i, pan oeddwn i'n holi barn pobl, fod angen inni ddangos sut y gallai twristiaeth gyfrannu at ein hamcanion ehangach ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, ac, oherwydd hynny, rydyn ni wedi gosod yr uchelgais yna yn ganolog i'r cynllun. Rydyn ni hefyd wedi trafod hyn i gyd yn fanwl gyda'r diwydiant, gyda'r sector. O'r uwchgynhadledd dwristiaeth a gynhaliwyd ym mis Mawrth y llynedd, ac yn dilyn y cwestiynau a ofynnwyd yno, fe gafwyd oddeutu 386 o bobl yn ymateb gyda sylwadau a syniadau. Roeddent hwythau yn dweud bod angen i gynaliadwyedd fod yn ganolog i bopeth roedden ni am ei wneud.
Roedd y sector hefyd yn nodi heriau ymarferol—yr angen i fynd i'r afael â natur dymhorol twristiaeth a pharhau i greu swyddi gydol y flwyddyn, i greu mwy o elw a rheoli costau. Rydyn ni hefyd yn dechrau gweld gor-bwyslais ar dwristiaeth, yn ôl rhai, mewn rhai rhannau o Gymru ac ar rai adegau o'r flwyddyn. Felly, yn ogystal â'r uchelgais craidd i ddatblygu twristiaeth er lles Cymru, mae angen i gynllun gweithredu newydd nodi sut y byddwn ni'n mynd i'r afael â rhai o'r heriau ymarferol yma.
I guro yn y gystadleuaeth, rydyn ni angen cynnyrch sy'n unigryw ac yn uchelgeisiol, sy'n gyson â'n cryfderau ni, ac sy'n apelio at farchnadoedd newydd ar gyfer yfory. Dyna pam rydyn ni'n pwysleisio profiadau sy'n unigryw i Gymru, sy'n sicrhau pwyslais a chydbwysedd rhwng y lleol a'r byd-eang, rhwng yr hyn rydyn ni'n alw yn 'fro' a 'byd'. Mae hyn yn golygu gwneud pethau sy'n sicrhau manteision lleol, ond hefyd gan bwysleisio naws am le cryf Cymru, cefnogi busnesau cynhenid, a chyfrannu tuag at y brand ehangach a chyrraedd safonau byd-eang o ddarpariaeth.
Mae gyda ni felly bedwar maes o flaenoriaeth at y dyfodol. Yn gyntaf, 'cynnyrch a lleoedd gwych'—mi fyddwn ni'n parhau i fuddsoddi mewn cynnyrch arloesol sy'n dod â phobl i Gymru.
Ein prif flaenoriaeth ydy 'profiadau o ansawdd uchel i ymwelwyr'. Ond, yn arbennig ar sail ymweliadau rwyf wedi'u gwneud yn ddiweddar i safleoedd sydd yn darparu cyfle gwersylla i bobl sydd ag anghenion arbennig, sydd ag anabledd penodol a phroblemau symudedd, dwi'n awyddus iawn ein bod ni'n gosod cyfleoedd i bobl llai abl o ran symudedd gael eu denu yma i Gymru, fel bod gan Gymru enw uchel yn fyd eang o ran darpariaeth ar gyfer pawb sydd am ymweld â ni.
Blaenoriaeth pellach fydd parhau i ddatblygu brand arloesol Cymru, gyda phwyslais ar farchnata ac arloesi digidol.
Yna, yn bedwerydd, rydyn ni'n awyddus i ddangos bod gyda ni sector gyd-gysylltiedig o fewn yr economi a chymdeithas, ac sydd yn fywiog, sy'n cynnwys gwneud mwy i gysylltu twristiaeth gydag agendâu eraill o fewn y gymuned, megis trafnidiaeth ac, wrth gwrs, iechyd. Mi fyddwn ni'n cynnwys heriau fel sut y gall twristiaeth fynd i'r afael â rhai o'r effeithiau newid hinsawdd fel rhan o'n ffordd o feddwl.
Mi fyddwn ni hefyd yn ceisio gweithio yn llawer mwy masnachol, drwy ffyrdd newydd o greu cynnyrch y mae modd ei archebu, canolbwyntio mwy amlwg ar gynnyrch â diddordeb, a bod yn fwy doeth ynghylch y ffordd y byddwn yn cydweithio â phartneriaid i gyrraedd mwy o bobl. Hynny yw, nid ein bod ni yn cynnig arlwy yn unig, ond ein bod ni'n deall pa fath o arlwy mae pobl sydd yn dod yma yn ei wir ddymuno.
I grynhoi, yr holl uchelgais yw datblygu twristiaeth er lles Cymru, er lles i'r perfformiad economaidd, ond hefyd drwy sylweddoli bod twristiaeth yn ddiwydiant sydd yn cwmpasu'r genedl gyfan, yn yr ardaloedd gwledig yn ogystal ag yn yr ardaloedd trefol, yn y Cymoedd yn ogystal ag yn Eryri fynyddig. Ond mae angen hefyd inni fod yn realistig, fel ein bod ni yn gweld bod angen inni addasu'r hyn rydyn ni'n ei gynnig er mwyn gallu ymateb i'r hyn mae'n hymwelwyr ni am ei weld, ond hefyd i gyplysu hynny ag anghenion Cymru. Ac felly, ein blaenoriaeth gyson ni yw atgoffa'r byd fod Cymru ar agor ar gyfer busnes fel lle i fuddsoddi ynddo, i weithio ac i fyw. A diolch ichi i gyd fel Aelodau Cynulliad ac, yn arbennig, i'r diwydiant ac i'r sector y tu fas i'r Senedd hon am eu cefnogaeth dros y ddwy flynedd, bron, yr wyf i wedi cael y fraint o gael cyfrifoldeb dros y diwydiant hwn.