Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 23 Hydref 2019.
Diolch. Weinidog, mawr oedd yr angen am y £2 filiwn a gyhoeddodd eich Llywodraeth yn gynharach eleni ar gyfer mentrau iechyd meddwl mewn prifysgolion, a mawr oedd y croeso iddo. Ac fe ddywedoch wrthyf ym mis Gorffennaf mai bwriad y cyllid hwn oedd datblygu dull ysgol gyfan a fyddai'n cefnogi staff yn ogystal â myfyrwyr. Ond ar yr un pryd, credaf mai £175,000 yn unig a roesoch i ColegauCymru at yr un diben, o ran rhoi hyn ar waith mewn colegau addysg bellach, er bod mwy o fyfyrwyr mewn addysg bellach nag mewn addysg uwch yng Nghymru. Sut rydych yn sicrhau y gall myfyrwyr sy'n ymgymryd ag addysg bellach gael yr un lefel o gefnogaeth mewn perthynas â'r fenter iechyd meddwl benodol hon?