Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 23 Hydref 2019.
Mae'r Aelod yn llygad ei lle—yr hyn rydym yn ceisio'i ddatblygu yn Llywodraeth Cymru yw dull system gyfan o ymdrin â lles ac iechyd meddwl. Yn yr atebion i'r cwestiynau cyntaf, clywsoch am y gwaith a wnawn mewn ysgolion. Ond yn amlwg, mae angen i ni barhau â'r gefnogaeth honno wrth i unigolion gyflawni eu taith drwy'r system addysg. Er y cyfyngiadau ar y gyllideb, rwy'n falch ein bod wedi gallu sicrhau dyraniad, i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ac i ColegauCymru. Yr wythnos diwethaf, cyfarfûm ag aelodau o ColegauCymru i drafod yr angen am gefnogaeth barhaus i fyfyrwyr addysg bellach mewn perthynas ag iechyd meddwl, ac mae'r trafodaethau hynny hefyd yn mynd rhagddynt yn y Llywodraeth.