Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 23 Hydref 2019.
Fel y dywedais wrth ateb cwestiynau cynharach, Andrew, rydym yn gweithio ar draws y Llywodraeth i flaenoriaethu gwasanaethau rheng flaen, boed hynny'n addysg, gwasanaethau cymdeithasol neu'r ystod o wasanaethau cyhoeddus eraill y mae aelodau'r cyhoedd yn disgwyl i Lywodraeth Cymru eu darparu. Nid yw'r mwyafrif llethol o gyllid addysg yn dod o'r adran addysg. Mae'n dod, fel y nodwyd gan eich arweinydd yn gynharach mewn cwestiynau, drwy'r grant cynnal refeniw ar gyfer llywodraeth leol. Byddwn yn gwneud popeth a allwn i sicrhau bod addysg a llywodraeth leol yn cael yn dda yn y gyllideb hon.