Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 23 Hydref 2019.
Diolch yn fawr iawn. Mae angen ymagwedd gyfannol ar draws yr holl wasanaethau cyhoeddus er mwyn atal digartrefedd. Fodd bynnag, ym maes addysg, mae'r gwasanaeth ieuenctid yn chwarae rhan allweddol yn atal a mynd i'r afael â digartrefedd. Cefnogir hyn drwy ein gwaith ehangach ar ddiwygio addysg, gan gynnwys ein cwricwlwm newydd a chyflwyno dull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl a llesiant.