1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru ar 23 Hydref 2019.
4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hysbysu ac addysgu pobl ifanc am ddigartrefedd drwy'r system addysg? OAQ54595
Diolch yn fawr iawn. Mae angen ymagwedd gyfannol ar draws yr holl wasanaethau cyhoeddus er mwyn atal digartrefedd. Fodd bynnag, ym maes addysg, mae'r gwasanaeth ieuenctid yn chwarae rhan allweddol yn atal a mynd i'r afael â digartrefedd. Cefnogir hyn drwy ein gwaith ehangach ar ddiwygio addysg, gan gynnwys ein cwricwlwm newydd a chyflwyno dull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl a llesiant.
Diolch am eich ateb calonogol. Rwy'n siŵr y bydd y ffaith bod y Senedd Ieuenctid hefyd yn galw am fwy o ffocws ar sgiliau yn ein system addysgol yn eich calonogi. Mae'r sgil o fyw, y sgil o gynnal tenantiaeth, a'r sgil o wybod ble i ofyn am gymorth pan fydd pethau'n mynd o chwith yn un hanfodol, yn fy marn i. Yn y dosbarthiadau sy'n hyrwyddo dinasyddiaeth, ymwybyddiaeth gymdeithasol ac iechyd a lles, fel y sonioch, rwy'n meddwl o ddifrif fod angen inni ganolbwyntio ar y broblem fawr hon, gan mai un o'r pethau gwaethaf a all ddigwydd i chi yw eich bod yn ddigartref, neu'n wir, yn cysgu allan ar y strydoedd. Credaf mai dyma lle mae angen i ni ddechrau mynd i'r afael â'r broblem, sicrhau bod pobl yn fwy ymwybodol o'r hyn y dylent ei wneud, ac mae gan ysgolion a cholegau ran hanfodol i'w chwarae yn hyn o beth.
Rwy'n cytuno'n llwyr â chi, David; rwy'n siŵr y bydd pob un ohonom sydd â diddordeb yn y materion hyn wedi ein calonogi gan gryfder yr alwad gan aelodau o'n Senedd Ieuenctid am ddiwygio'r system addysg, a'r angen i gydbwyso eu system addysg, ie, â gwybodaeth am bynciau a chymwysterau, ond hefyd â'r sgiliau hanfodol y teimlant fod eu hangen arnynt er mwyn bod yn oedolion llwyddiannus pan fyddant yn gadael yr ysgol. Ac edrychaf ymlaen at ymuno ag aelodau o’r Senedd Ieuenctid ddydd Gwener yr wythnos hon i drafod cynnwys yr adroddiad hwnnw, a sut y gall ein taith ddiwygio ymateb mewn ffordd mor gadarnhaol â phosibl i’r alwad gan ein pobl ifanc eu hunain am yr hyn y maent yn ei ystyried yn ddiffyg ar hyn o bryd yn y model addysg sydd gennym.
Gwyddom hefyd, David, fod yr arwyddion ynghylch y posibilrwydd o ddod yn NEET hefyd yn ddangosyddion da o arwydd fod unigolyn ifanc mewn perygl o fynd yn ddigartref. Felly, mae angen inni wneud gwaith mewn ysgolion ar sicrhau bod plant yn cymryd rhan yn yr ysgol, yn mynychu, ac nid mewn perygl o adael, gan fod hynny'n arwydd da iawn i ni y gallent fynd yn ddigartref o bosibl. Felly, fel y dywedais, mae llawer o bethau rydym yn eu gwneud ar hyn o bryd, gan gynnwys buddsoddiad ychwanegol, yn benodol yn y gwasanaeth ieuenctid, i weithio ochr yn ochr ag ysgolion a phobl ifanc ar agenda atal digartrefedd, a fydd, yn fy marn i, yn sicrhau manteision gwirioneddol i blant a phobl ifanc, yn ogystal â'n diwygiadau ehangach i'r cwricwlwm a'r cyfle y mae hynny'n ei roi i ni fynd i'r afael â materion yn ymwneud â sgiliau.
Fel cyni, mae digartrefedd yn ddewis gwleidyddol; mae'n ddewis gwleidyddol a wneir gan wleidyddion a chan y Llywodraeth, ac mae rhai pobl o'r farn fod pobl ddigartref eu hunain yn dewis bod yn y sefyllfa honno, sy'n amlwg yn rwtsh llwyr. Ond caiff y farn honno ei hatgyfnerthu gan awdurdodau sy'n symud pobl ddigartref allan o'r ffordd, yn cael gwared ar eu heiddo ar fympwy, ac yn trin pobl yn gyffredinol heb fawr ddim dealltwriaeth nac empathi. Yr unig ffordd o newid agweddau yw drwy addysg, ac un o'r ffyrdd gorau o addysgu yw drwy brofiad uniongyrchol. Felly, sut y gall profiadau uniongyrchol pobl ddigartref helpu i lywio pobl ifanc i ddysgu am y clefyd cymdeithasol hwn, ac a ydych yn credu y bydd cysylltiadau â phrofiad uniongyrchol yn helpu pobl i fod yn fwy sympathetig?
Yn gyntaf, Leanne, a gaf fi ddweud nad wyf erioed wedi bod o'r farn, ac ni fyddaf byth o'r farn, fod digartrefedd yn ddewis? Mae'n ganlyniad i gyfres o amgylchiadau na fydd llawer ohonom yn y Siambr hon yn eu hwynebu, gobeithio, ond fe allai ddigwydd i unrhyw un ohonom. Gall salwch difrifol, chwalfa perthynas, problemau camddefnyddio cyffuriau neu alcohol arwain at hyn, felly dylem fod yn ofalus iawn wrth wneud y mathau hynny o gyhuddiadau a honiadau ynghylch yr hyn sy'n arwain at ddigartrefedd. Gall ddigwydd i bawb, o ble bynnag y byddant yn cychwyn mewn bywyd, ond gwyddom fod rhai pobl a allai fod yn fwy agored i ddigartrefedd. Ac rydych yn iawn y gall addysg fod yn arf pwerus i atal digartrefedd, ond hefyd i ddatblygu dealltwriaeth o'r broblem i'r bobl sy'n ei hwynebu.
Mae rheswm pam ein bod yn siarad am feysydd dysgu a phrofiad yn ein cwricwlwm newydd, oherwydd fy nisgwyliad o ran y cwricwlwm yw y bydd yn darparu lle yn y diwrnod ysgol i blant brofi'r union beth y buoch yn sôn amdano—gallu cyfarfod â phobl a thrafod â phobl sydd â'r profiad uniongyrchol o fyw heb gartref diogel, o fyw ar y strydoedd. A chredaf fod ein cwricwlwm newydd yn creu'r lle hwnnw a'r disgwyliad y gallwn weithio gyda sefydliadau gwirfoddol, sefydliadau goroeswyr pob math o broblemau, y gallwn weithio gyda'n gilydd yn ein hysgolion i ddarparu'r addysg eang honno y mae ein Senedd Ieuenctid yn galw arnom i'w darparu.