Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 23 Hydref 2019.
Weinidog, mae un o fy aelodau staff newydd gwblhau cwrs Hyfforddiant Sgiliau Ymyriadau Hunanladdiad Cymwysedig. Roedd hyn yn golygu cael sgyrsiau anghyfforddus iawn am hunanladdiad, a'i nod yw cadw pobl yn ddiogel am nawr. A oes unrhyw gynlluniau i gyflwyno'r math hwn o gynllun gyda'ch rhaglenni eich hun i athrawon a'r staff priodol yn ysgolion Cymru?