1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru ar 23 Hydref 2019.
6. Sut y mae'r Gweinidog yn sicrhau bod y canllawiau newydd ar siarad am hunanladdiad yn cael eu rhoi ar waith ym mhob ysgol yng Nghymru? OAQ54602
Diolch yn fawr, Lynne. Fel y gwyddoch, fe wnaethom lansio'r canllawiau newydd gyda'n gilydd ar 10 Medi a byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid, gan gynnwys y grŵp cynghori cenedlaethol, i sicrhau eu bod yn cael ei hyrwyddo'n helaeth ymhlith gweithwyr proffesiynol, nid yn unig mewn ysgolion ond yn ehangach ar draws y system. Ac fel rhan o'n dull ysgol gyfan, byddwn yn ystyried y ffordd orau o fonitro'r broses o'u rhoi ar waith, eu defnydd a'u heffaith.
Diolch, Weinidog. Roeddwn yn falch iawn o ymuno â chi yn y lansiad a chroesawu'r canllawiau, ond fel y dywedais, wrth gwrs, cam cyntaf yw hwn. Maent yn ganllawiau rhagorol a luniwyd gan yr Athro Ann John, ond ni fyddant ond cystal â'r broses o'u gweithredu. Tybed hefyd a ydych yn ymwybodol o ganllawiau a gyhoeddwyd yr wythnos hon gan Iechyd Cyhoeddus Lloegr, a nododd y dylid trin un achos o hunanladdiad mewn ysgol fel clwstwr posibl oherwydd y risg uwch i bobl ifanc. A fyddech yn cytuno â mi fod hynny'n pwysleisio pa mor bwysig yw hi, lle bu hunanladdiad mewn ysgol, fod yr ysgol honno'n croesawu mesurau ôl-ymyrraeth addas ar frys, fel rhaglen Cam wrth Gam, sydd mor llwyddiannus gyda'r Samariaid?
Buaswn. Rwy’n ymwybodol iawn o’r adroddiad y cyfeiria'r Aelod ato ond mae’r Aelod hefyd yn llygad ei lle wrth ddweud mai cam cyntaf y broses yn unig yw cyhoeddi ein canllawiau. Bydd angen i ni sicrhau, drwy'r grŵp gorchwyl a gorffen gweinidogol y mae Lynne Neagle yn aelod ohono, y caiff systemau gweithredu a monitro cadarn eu datblygu, ond rwyf hefyd yn bwriadu cydgynhyrchu adnoddau pellach gyda'r Athro Ann John a'r grŵp arbenigol o'i chwmpas, gyda phwyslais penodol ar sicrhau bod adnoddau ar gael i'r bobl ifanc eu hunain. Mae'r hyn rydym wedi'i ddarparu ym mis Medi eleni yn adnodd sydd wedi'i anelu at weithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda phobl ifanc, ond fy mwriad bellach yw symud i'r cam nesaf i sicrhau bod mwy o adnoddau ar gael i'r bobl ifanc eu hunain.
Weinidog, credaf fod y ffaith ein bod yn gallu trafod y pwnc hwn, a arferai fod yn bwnc tabŵ, yn y ffordd agored a thryloyw hon yn dangos pa mor bell rydym wedi dod fel gwlad, a chredaf fod hynny i'w groesawu. Rydym ninnau, wrth gwrs, yn y Siambr hon wedi cael ein profiad uniongyrchol ein hunain o golli ein cyd-Aelod annwyl, Carl Sargeant, yn y ffordd drasig hon, felly credaf fod cyfrifoldeb ar bob un ohonom i wneud yr hyn a allwn i geisio cyfleu'r neges honno, i ddweud wrth bobl nad oes yn rhaid iddynt deimlo ar chwâl i'r fath raddau fel bod yn rhaid iddynt weithredu yn y fath fodd.
Mae wedi bod yn dda gweld yn ddiweddar fod rhaglenni teledu fel EastEnders wedi bod yn ymdrin â mater hunanladdiad gyda'r stori deimladwy am Bex Fowler a'r straen arni wrth iddi fynd i'r brifysgol. Gwyddom fod pobl ifanc yn arbennig o agored i niwed yn ystod cyfnod arholiadau, ac mewn ffordd, mae'n anodd osgoi'r holl straen hwnnw, ond mae'n bwysig fod y bobl ifanc hynny'n cael eu cyfeirio cyn gynted â phosibl, ac y manteisir ar y cyfle hwnnw—ac weithiau dim ond cyfle am gyfnod byr ydyw—i estyn allan atynt.
Felly, a allwch ddweud wrthym sut rydych yn sicrhau, gyda'r canllawiau hyn y cyfeiriodd Lynne Neagle atynt, ac y sonioch chi amdanynt, fod pobl ifanc yn cael eu cyfeirio cyn gynted ag y bydd problemau'n codi, a'u bod yn teimlo bod pobl y gallant droi atynt pan fyddant weithiau'n teimlo bod popeth wedi'i golli?
Wel, Nick, credaf ei bod yn wir dweud ein bod wedi gwneud rhywfaint o gynnydd wrth siarad am hunanladdiad, ond mae llawer iawn o stigma ynghlwm wrth hunanladdiad o hyd. Ac yn aml ceir cryn dipyn o nerfusrwydd ymhlith gweithwyr proffesiynol wrth siarad am faterion sy'n sensitif tu hwnt. Yn aml, maent yn ofni y gallai'r hyn y gallant ei ddweud waethygu'r sefyllfa, a dyna'r rheswm pam y gwnaethom gomisiynu'r adnoddau hyn yn y lle cyntaf er mwyn rhoi hyder i'n gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda phobl ifanc ei bod yn wirioneddol bwysig cael y sgyrsiau hyn—ni allwch wneud pethau'n waeth—a'u sgilio a'u grymuso i gael y trafodaethau hyn. Ond wrth gwrs, mae angen gwasanaethau cymorth arnom pan fydd athrawon a phobl ifanc yn nodi problem. Dyna pam rydym yn darparu adnoddau ychwanegol ar gyfer ein gwasanaeth cwnsela. Dyna pam rydym wedi cyhoeddi penderfyniad yn ddiweddar i ymestyn ein cynllun peilot mewngymorth ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed a oedd i fod i ddod i ben ym mis Gorffennaf 2020; bydd hwnnw bellach yn parhau tan ddiwedd y flwyddyn. Ac mae adnoddau ychwanegol yn cael eu dyrannu i'r cynlluniau peilot hynny ar hyn o bryd.
Mae'n bwysig nad ydym yn meddygoliaethu'r broses o dyfu i fyny—mae hwnnw hefyd yn bwynt pwysig iawn. Ond gwyddom fod angen ymyriadau amserol ac effeithiol ar rai plant sydd o dan straen. Mae symud i addysg uwch yn sbardun posibl arall: llawer o bobl yn byw oddi cartref am y tro cyntaf, yn gorfod sefydlu grwpiau newydd o ffrindiau yn ogystal â'r pwysau academaidd. A dyna pam rydym wedi darparu £2 filiwn eleni i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i gefnogi prosiectau iechyd meddwl mewn prifysgolion.
Weinidog, mae un o fy aelodau staff newydd gwblhau cwrs Hyfforddiant Sgiliau Ymyriadau Hunanladdiad Cymwysedig. Roedd hyn yn golygu cael sgyrsiau anghyfforddus iawn am hunanladdiad, a'i nod yw cadw pobl yn ddiogel am nawr. A oes unrhyw gynlluniau i gyflwyno'r math hwn o gynllun gyda'ch rhaglenni eich hun i athrawon a'r staff priodol yn ysgolion Cymru?
Wel, mae llu o raglenni hyfforddi ac ymyriadau ar gael, ac mae hynny weithiau'n achosi problemau i'n hysgolion—gwybod pa un yw'r hyfforddiant gorau a'r dull mwyaf addas a seiliedig ar dystiolaeth i'w ddefnyddio. Ac fel rhan o'n dull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl, dyna pam ein bod yn datblygu pecyn cymorth i ysgolion a sylfaen adnoddau i ysgolion er mwyn ceisio symleiddio'r broses honno, fel eu bod yn gwybod beth sydd ar gael, beth sy'n gweithio a'r hyn y mae sylfaen dystiolaeth gref ar ei gyfer. Ac wrth gwrs, rydym yn sicrhau bod adnoddau ychwanegol ar gael ar gyfer dysgu proffesiynol, a thrwy hynny, rydym yn creu lle i addysgwyr proffesiynol a phobl eraill sy'n gweithio yn ein hysgolion gyflawni'r hyfforddiant hwnnw.