Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 23 Hydref 2019.
Diolch. Mae'r cwestiwn atodol dwi am ei ofyn ychydig yn wahanol i'r un roeddwn i wedi'i fwriadu yn wreiddiol. Dwi'n falch o weld y Gweinidog cysylltiadau rhyngwladol wrth eich ymyl chi. Mi oedd y cwestiwn gwreiddiol yn deillio o gyfarfod y cawsom ni o'r grŵp trawsbleidiol dwi'n ei gadeirio, Cymru Ryngwladol, lle roedden ni'n trafod strategaeth ryngwladol drafft y Llywodraeth. A'r cwestiwn oedd: yng nghyd-destun Brexit a'r drafodaeth honno, sut allwn ni werthu strategaeth ryngwladol i bobl sydd, efallai, ddim eisiau bod yn rhyngwladol? Mae'r cwestiwn hwnnw yn sefyll, ond beth dwi am fynd ar ei ôl, yn hytrach—ac mae newid pwyslais oherwydd yr hyn rydyn ni wedi'i glywed heddiw, y newyddion erchyll am 39 o bobl yn cael eu canfod yn farw mewn lori a oedd wedi pasio drwy Gaergybi. Mae rhai o'r sylwadau dwi wedi'u darllen am y digwyddiad yn erchyll. Maen nhw'n nodweddu, dwi'n meddwl, y diffyg goddefgarwch sydd wedi bod yn nodwedd o'r disgẃrs cyhoeddus dros y blynyddoedd diwethaf.
Felly, sut allwn ni sicrhau bod y math o addysg ddinasyddiaeth sydd yn cael ei chyflwyno yn ysgolion Cymru yn gwneud llawer mwy i ddysgu pobl am le Cymru yn y byd—perthynas Cymru â'r byd? Sut mae pobl yn cyd-berthyn i'w gilydd, fel nad ydy pobl yn teimlo'i bod hi'n dderbyniol i fynd ar gyfryngau cymdeithasol a gwneud datganiadau cyhoeddus, cwbl erchyll, am ddigwyddiadau fel yr hyn rydyn ni wedi clywed amdano fo heddiw?