1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru ar 23 Hydref 2019.
7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddysgu dinasyddiaeth ryngwladol mewn ysgolion? OAQ54605
Diolch yn fawr, Rhun. Ar hyn o bryd, mae cyfleoedd ar gael i ddysgwyr astudio dinasyddiaeth ryngwladol drwy addysg ar gyfer datblygu cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang, bagloriaeth Cymru, ac addysg bersonol a chymdeithasol. Mae sicrhau bod dysgwyr yn dod yn ddinasyddion moesegol, gwybodus, sy'n barod i fod yn ddinasyddion Cymru a'r byd, wrth gwrs, yn un o'n pedwar diben yn ein cwricwlwm newydd.
Diolch. Mae'r cwestiwn atodol dwi am ei ofyn ychydig yn wahanol i'r un roeddwn i wedi'i fwriadu yn wreiddiol. Dwi'n falch o weld y Gweinidog cysylltiadau rhyngwladol wrth eich ymyl chi. Mi oedd y cwestiwn gwreiddiol yn deillio o gyfarfod y cawsom ni o'r grŵp trawsbleidiol dwi'n ei gadeirio, Cymru Ryngwladol, lle roedden ni'n trafod strategaeth ryngwladol drafft y Llywodraeth. A'r cwestiwn oedd: yng nghyd-destun Brexit a'r drafodaeth honno, sut allwn ni werthu strategaeth ryngwladol i bobl sydd, efallai, ddim eisiau bod yn rhyngwladol? Mae'r cwestiwn hwnnw yn sefyll, ond beth dwi am fynd ar ei ôl, yn hytrach—ac mae newid pwyslais oherwydd yr hyn rydyn ni wedi'i glywed heddiw, y newyddion erchyll am 39 o bobl yn cael eu canfod yn farw mewn lori a oedd wedi pasio drwy Gaergybi. Mae rhai o'r sylwadau dwi wedi'u darllen am y digwyddiad yn erchyll. Maen nhw'n nodweddu, dwi'n meddwl, y diffyg goddefgarwch sydd wedi bod yn nodwedd o'r disgẃrs cyhoeddus dros y blynyddoedd diwethaf.
Felly, sut allwn ni sicrhau bod y math o addysg ddinasyddiaeth sydd yn cael ei chyflwyno yn ysgolion Cymru yn gwneud llawer mwy i ddysgu pobl am le Cymru yn y byd—perthynas Cymru â'r byd? Sut mae pobl yn cyd-berthyn i'w gilydd, fel nad ydy pobl yn teimlo'i bod hi'n dderbyniol i fynd ar gyfryngau cymdeithasol a gwneud datganiadau cyhoeddus, cwbl erchyll, am ddigwyddiadau fel yr hyn rydyn ni wedi clywed amdano fo heddiw?
Rhun, nid oes geiriau a all fynegi pa mor arswydus yw'r newyddion am ddarganfod yr unigolion hynny yng nghefn y lori honno. Mae'n beth gwirioneddol frawychus, a chael hynny wedi'i atgyfnerthu gan y sylwadau y cyfeirioch chi atynt—nid wyf wedi eu gweld fy hun, ond gallaf ddychmygu'r hyn y maent wedi'i ddweud. Fel y dywedais wrth ateb eich cwestiwn gwreiddiol, rydym yn newid i gwricwlwm a arweinir gan ddiben sy'n diffinio'r math o ddinasyddion, y priodoleddau, y math o bobl rydym am eu gweld o ganlyniad i'w profiad yn system addysg Cymru, ac rwyf am iddynt fod yn bobl foesegol a gwybodus sy'n ddinasyddion Cymru a'r byd.
Daw eich sylwadau ar ôl y cwestiwn a ofynnwyd gan eich cyd-Aelod, Bethan Sayed, ynglŷn â'r adroddiad heddiw ar hiliaeth yn ein prifysgolion. Mae gennym broblem yma yng Nghymru ac mae'n rhaid i ni ddefnyddio pob agwedd ar bolisi cyhoeddus Llywodraeth Cymru i allu mynd i'r afael â hi. Mae cyfrifoldeb enfawr ar addysg i sicrhau bod y safbwyntiau hyn yn cael eu herio pan gânt eu mynegi, a gallwn roi cyfle i blant ddeall a datblygu empathi a pharch, a'r rhesymau pam roedd y 39 o bobl hynny'n teimlo'n ddigon anobeithiol i ddringo i gefn y lori yn y lle cyntaf.