Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 23 Hydref 2019.
Gwnaf. Eleni fu'r flwyddyn brysuraf erioed ar gyfer gwasanaethau gofal brys Cymru. Y mis diwethaf oedd y mis Medi prysuraf erioed o ran mynychu adrannau brys ac o ran galwadau brys am ambiwlans. Er y cynnydd o 7 y cant yn y nifer a fynychodd adrannau brys o gymharu â'r mis Medi diwethaf, cafodd mwy o bobl eu gweld, eu trin neu eu rhyddhau gennym o fewn pedair awr, a'r amser aros canolrifol oedd dwy awr a 35 munud.