Triniaethau Newydd ar gyfer Canser

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 23 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:26, 23 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rydym wedi ymrwymo'n llwyr yng Nghymru i ddarparu triniaethau canser a argymhellir ac y profwyd eu bod yn effeithiol. Cyflawnir hyn drwy'r gronfa triniaethau newydd ar gyfer meddyginiaethau. Erbyn mis Awst eleni, roedd y gronfa triniaethau newydd wedi darparu mynediad cyflym at 205 o feddyginiaethau, gan gynnwys 86 ar gyfer canser, ac mae wedi cwtogi'r amser y mae'n ei gymryd i ddarparu meddyginiaethau a argymhellir o'r newydd o 90 diwrnod ar gyfartaledd i ddim ond 12. Er bod llawer o ffocws ar gyffuriau newydd, mae'n werth cofio hefyd y gall llawfeddygaeth fod yn wellhaol fel triniaeth ar gyfer canser. Yn aml, nid yw hynny'n cael ei nodi yn y Siambr hon. Dyna pam rydym yn parhau i fuddsoddi mewn gwelliannau mewn llawfeddygaeth, yn ogystal â darparu therapi wrth gwrs.