Triniaethau Newydd ar gyfer Canser

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 23 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:31, 23 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Mae ystod o grwpiau canser yn rhan o'r gynghrair canser, gan gynnwys y rhai sydd â diddordeb mewn canser yr ofari, ac mae'n rhan o'n hymchwil, ein diddordeb a'n gweithgarwch. Rwy'n fwy na pharod i ysgrifennu at yr Aelod gyda manylion penodol ynglŷn â'r hyn rydym yn ei wneud o ran gweithgarwch ymchwil yn y maes hwn, ond nid ydym yn rheoli'r holl weithgarwch ymchwil hwnnw, wrth gwrs; mae hynny'n dibynnu ar ble mae'r astudiaethau clinigol hynny'n digwydd a ddim yn digwydd, a'r cydweithredu sy'n digwydd ar draws sectorau gofal iechyd a phrifysgolion y DU hefyd. Ond rwy'n fwy na pharod i ddarparu mwy o fanylion defnyddiol, gobeithio, am natur y gwaith ymchwil hwnnw yma yng Nghymru i'r Aelod.