Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 23 Hydref 2019.
Diolch yn fawr, Lywydd. Hoffwn holi'r Gweinidog eto am y sefyllfa yng Nghwm Taf. Rwy'n ymwybodol, wrth gwrs, fod datganiad pellach wedi'i wneud i'r Cynulliad hwn bythefnos yn ôl—credaf mai pythefnos yn ôl y'i gwnaed. Yn anffodus, nid oedd modd i mi fod yn bresennol bryd hynny, ond rwyf wedi cael cyfle i ddarllen y Cofnod. Ac rwy'n derbyn, fel y dywedodd y Gweinidog yn ei ymateb i sylwadau fy nghyd-Aelod, Dr Dai Lloyd, nad yw'n bosibl trawsnewid diwylliant yn llwyr mewn ychydig fisoedd, ond tybed a wnaiff y Gweinidog dderbyn ei bod yn anodd iawn i bobl ddeall pam na ellir gwneud gwasanaeth yn ddiogel o fewn chwe mis. Ac a all y Gweinidog ddweud wrthym heddiw pryd y mae'n disgwyl gallu rhoi sicrwydd i bobl Merthyr Tudful a'r cyffiniau fod y gwasanaeth hwnnw'n ddiogel?