Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 23 Hydref 2019.
Wel, rwyf wedi nodi proses o ymyrraeth i roi'r sicrwydd priodol y byddai pawb yn dymuno'i gael, p'un a'u bod yn byw yn ardal Cwm Taf ai peidio, ynghylch diogelwch y gwasanaeth hwnnw a'r rhagolygon ar gyfer ei ddyfodol, ac rwyf wedi nodi nid yn unig y panel trosolwg annibynnol, ond y gwaith sy'n mynd rhagddo o amgylch y bwrdd. A byddaf yn gwneud datganiadau pan fyddaf mewn sefyllfa i wneud hynny. Mae'n bwysig iawn nad wyf yn darparu amserlenni artiffisial sy'n gyfleus i mi, yn hytrach na darparu'r sicrwydd cadarn y byddai pobl yn ei ddisgwyl ac yn dymuno'i weld. Mae swyddogion a'r Llywodraeth a'r bwrdd iechyd a'r panel trosolwg yn parhau i ymgysylltu'n rheolaidd, a chyda'u hadroddiad chwarterol nesaf, bydd gennym syniad o'r hyn sydd wedi digwydd yn ystod y chwarter diwethaf hefyd. Dyna'r broses onest a gwrthrychol sydd wedi'i sefydlu a dyna'r un y byddaf yn cadw ati.