Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 23 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru 2:43, 23 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Rwy’n derbyn yr hyn a ddywed y Gweinidog, wrth gwrs, ynglŷn â pheidio â chreu amserlenni artiffisial, ond rwy’n sicr yn gwybod, pe bawn yn ddynes o oedran cael plant ac yn byw yn y rhanbarth hwnnw, buaswn yn awyddus i wybod bod amserlen ar waith ac y gallwn ddisgwyl i'r gwasanaeth hwnnw fod yn ddiogel ar ryw adeg.

Rwyf wedi derbyn sylwadau, a gwn fod cyd-Aelodau eraill wedi derbyn sylwadau, a oedd yn awgrymu i mi—wel, yn profi i mi—fod y problemau diwylliannol, ac rwy'n derbyn unwaith eto na ellir eu newid dros nos, yng Nghwm Taf yn ymestyn ymhell y tu hwnt i wasanaethau mamolaeth. Yn ddiweddar, cyfarfûm â theulu a roddodd dystiolaeth i mi ynghylch materion difrifol yn ymwneud â thriniaeth eu rhieni oedrannus ar wahân mewn gwahanol rannau o wasanaeth Cwm Taf dros gyfnod o ddwy flynedd. Nawr, mae'r materion hyn yn codi themâu tebyg i rai o'r problemau mewn perthynas â phrofiadau menywod yn y gwasanaeth mamolaeth—problemau sy'n ymwneud â diffyg parch, diffyg gwrando ar gleifion a'u teuluoedd, diffyg gofal sylfaenol, fel cynorthwyo pobl hŷn i fwyta ac yfed. Cafodd y teulu hwn brofiad anfoddhaol iawn, unwaith eto'n debyg i rai o'r bobl a oedd wedi defnyddio gwasanaethau mamolaeth, wrth ddefnyddio'r weithdrefn gwyno. A gaf fi ofyn i'r Gweinidog heddiw a fydd yr ymyriadau presennol a roddwyd ar waith ganddo yng Nghwm Taf yn nodi pryderon ehangach, fel y rhain, ynglŷn â'r diwylliant yn y sefydliad y tu hwnt i wasanaethau mamolaeth? Ac a yw'n derbyn y gallai fod angen iddo gynyddu ei ymyrraeth os daw pethau o'r fath yn gyhoeddus?